Panel yr Amgylchedd Naturiol yn trafod Cynllun Corfforaethol ar gyfer Adnoddau Naturiol a Bioamrywiaeth

Cyfarfu Panel Craffu’r Amgylchedd Naturiol ym mis Mawrth i drafod cynnydd gyda’r gwaith a’r prif weithgarwch prosiect a reolir gan y Tîm Cadwraeth Natur. Ystyriodd y Panel Gofnod Gweithredu Bioamrywiaeth ac Isadeiledd Gwyrdd a ddarparwyd i’r Panel i wella dealltwriaeth o’r gwahanol weithgareddau sy’n gysylltiedig â chamau gweithredu dan flaenoriaeth y Cynllun Corfforaethol ar gyfer Adnoddau Naturiol a Bioamrywiaeth, ac sy’n deillio o argymhellion Ymchwiliad Craffu’r Amgylchedd Naturiol.

Roedd gan y Panel ddiddordeb yn y cynnydd a wnaed o ran datblygu Polisi Coed y cyngor a theimlai y byddai hyn o ddiddordeb i’r cyhoedd hefyd.

Cododd y Panel bryderon ynghylch pa hysbysiad a roddir gan sefydliadau eraill wrth dorri coed, a gofynnwyd sut y gellir cynyddu ymwybyddiaeth yn gyffredinol pan fydd coed yn cael eu torri, neu eu plannu. Esboniodd swyddogion y cynhelir ymgynghoriad â chymunedau lleol lle bynnag y bo modd. Soniodd aelodau’r Panel fod gan gynghorwyr rôl hefyd o ran esbonio a rhannu gwybodaeth â phreswylwyr.

Trafododd y Panel hefyd faterion a oedd yn cynnwys; Bwrdd Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd, Cynllun Gweithredu Corfforaethol Adran 6 – Dyletswydd Bioamrywiaeth, Isadeiledd Gwyrdd, Mentrau Plannu a Rheoli Dolydd Blodau Gwyllt.

Bwrdd Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd

Nododd y Panel fod y Cofnod Gweithredu a ddarparwyd i’r Panel dan ymbarél Bwrdd Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd. Dysgodd y Panel fod y Gweithgor strategol hwn a arweinir gan swyddogion yn cyfarfod bob deufis i hwyluso, cydlynu, cyflawni a monitro’r camau yn Amcan y Cynllun Corfforaethol ar gyfer Cynnal a Gwella Adnoddau Naturiol a Bioamrywiaeth Abertawe, yn ogystal â chynllun gweithredu ar newid yn yr hinsawdd y cyngor.

Mae gan y Panel ddiddordeb mewn dysgu rhagor am hyn yn ei gyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer mis Mai.

Cynllun Gweithredu Corfforaethol Adran 6 – Dyletswydd Bioamrywiaeth

Roedd aelodau’r Panel yn awyddus i weld y gwaith y mae’r cyngor yn ei wneud i gyflawni’r ddyletswydd hon yn cael ei hyrwyddo’n well, ac anogwyd aelodau’r Cabinet i edrych ar ffyrdd o wella cyfathrebu er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o’r gwaith hwn.

Roedd y Panel yn falch o weld cynnydd yn cael ei wneud ar un o’r materion a amlygwyd gan Ymchwiliad Craffu’r Amgylchedd Naturiol: mae recriwtio ar gyfer Swyddog Dyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6 newydd ac Ecolegydd Cynllunio newydd ar y gweill.

Isadeiledd Gwyrdd

Esboniodd swyddogion y gwnaed llawer o waith ymchwil ac ymgynghori i baratoi Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd Ardal Ganolog Abertawe, a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Chwefror 2021. Nod y strategaeth hon yw ymgorffori isadeiledd gwyrdd bioamrywiol mewn datblygiadau newydd.

Trafododd y Panel faterion yn ymwneud â; Hyrwyddo a Chefnogi Prosiectau Bioamrywiaeth Cymunedol, arian grant Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru ac Ymwybyddiaeth Bioamrywiaeth Ysgolion.

Cliciwch yma i weld rhagor o fanylion am yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfod hwn.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.