Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn monitro camau gweithredu’r cyngor mewn perthynas ag ymateb ac adferiad COVID-19

Cyfarfu Pwyllgor y Rhaglen Graffu ag Arweinydd y Cyngor, y Prif Weithredwr a’r Dirprwy Brif Weithredwr ar 16 Mawrth i drafod cynllun ymateb ac adfer COVID-19 y cyngor, ‘Abertawe – Cyflawni’n Well Gyda’n Gilydd’

Roedd y Pwyllgor yn falch o glywed bod y mesurau cyfyngiadau symud parhaus wedi helpu i leihau achosion COVID-19 yn gyson.

Roedd y Pwyllgor hefyd yn falch o gyflymder y rhaglen frechu ar draws Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Clywodd y Pwyllgor fod y Cynllun Adfer a Thrawsnewid wedi disodli ‘Strategaeth Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i’r Dyfodol’. Mae’r Cynllun newydd hwn wedi deillio o effeithiau’r pandemig, yr heriau a’r cyfleoedd newydd sy’n deillio o’r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 newydd, a’r dirwedd wleidyddol genedlaethol newidiol a’r ansicrwydd economaidd sy’n deillio o risgiau COVID-19 a Brexit.

Darparodd yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ddiweddariad am gynnydd prosiect a disgrifiad o weithgareddau/benderfyniadau arfaethedig mewn perthynas â phum ffrwd waith sy’n canolbwyntio ar Wasanaethau Gofal, Addysg a Dysgu, yr Economi a’r Amgylchedd, Cymorth Cymunedol, a Gweithlu a Chydraddoldebau’r Dyfodol. Yn gyffredinol, nododd y Pwyllgor fod y cyfnod adfer yn mynd rhagddo’n dda a bod y ffrydiau gwaith ar waith ac yn gweithio drwy gamau gweithredu sy’n gysylltiedig â’u hagendâu, a bod mecanweithiau adrodd a byrddau llywodraethu hefyd ar waith.

Holodd y Pwyllgor am rôl cynghorwyr, ar wahân i aelodau gweithredol, a dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai pob ffrwd waith a phrosiect unigol yn cynnwys cynghorwyr drwy Bwyllgorau Datblygu Polisi a gweithdai ar gyfer ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad ehangach.

Canmolodd a diolchodd y Pwyllgor i’r gweithlu ar draws yr awdurdod eto am ei waith gan mai dyna sydd wedi cadw pobl yn ddiogel, cadw gwasanaethau’r cyngor i fynd, cefnogi’r rhai mewn angen, a bydd yn sicrhau’r adferiad a’r trawsnewid.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.