Gweithgor Craffu yn clywed bod 87% o staff yn ‘Hoffi gweithio gartref’

Cyfarfu Gweithgor y Gweithlu Craffu ar 29 Mawrth 2021 i edrych ar effaith y pandemig ar iechyd a lles staff a; sut mae’r cyngor yn cefnogi hyn; materion yn ymwneud â gweithio gartref; cyfraddau salwch staff; trosiant staff; defnyddio staff asiantaeth a phwysau.

Cafodd y Gweithgor yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa yr oedd yr Awdurdod ynddi cyn y pandemig o ran gweithio ystwyth a chlywodd ei fod yn ‘dda’ ar y cyfan.

Teimlai’r Gweithgor fod mapio’n bwysig ac mae wedi gofyn am ddata sylfaen ar draws adrannau a gwybodaeth gymharol am y 3 blynedd diwethaf, i weld a oes mwy neu llai o staff ar y cyfan? a lle mae’r newidiadau wedi digwydd. Clywodd aelodau’r Gweithgor fod llawer o weithgarwch wedi bod o ran Profi, Olrhain a Diogelu (POD) a gwirfoddoli, ac roedd y ffordd yr ymatebodd y gweithlu i’r argyfwng, gyda staff yn awyddus i fod yn rhan o hyn a helpu lle y gallent, gan gynnwys mewn banciau bwyd, wedi gwneud cryn argraff arnynt.

Nododd y Gweithgor fod y Tîm Iechyd a Diogelwch wedi gallu rhoi llawer o gefnogaeth ar waith er lles y gweithlu.

Holodd y Gweithgor am yr ymgysylltiad â’r Undebau Llafur (ULl) a’u mewnwelediad ac roedd yn falch o glywed y cynhaliwyd cyfarfodydd wythnosol â’r Undebau yn ystod anterth y pandemig a’u bod bellach yn cael eu cynnal bob pythefnos. Aed i’r afael â’r materion a godwyd yn y cyfarfodydd hyn.

Canfu arolwg staff a gynhaliwyd yn ystod haf 2020, ychydig fisoedd wedi i’r pandemig gychwyn, fod 87% o’r staff wedi dweud eu bod yn hoffi gweithio gartref. Holodd y Gweithgor a yw staff wedi ei chael hi’n anoddach gweithio gartref wrth i amser fynd heibio a dywedodd swyddogion eu bod yn teimlo bod pawb wedi’i chael hi’n anoddach wrth i amser fynd heibio, nid o reidrwydd oherwydd gweithio o gartref ond oherwydd bod pobl wedi’u cyfyngu i’w cartrefi.  Hysbyswyd aelodau’r Gweithgor o’r bwriad i fynd ar drywydd hyn drwy gynnal arolwg staff arall ymhen ychydig fisoedd, gan fod cyfyngiadau’n codi erbyn hyn, i weld a yw teimladau wedi newid. Cododd y Gweithgor y mater ynghylch pryd y bydd swyddfeydd yn ailagor a chyfarfodydd yn dechrau eto’n bersonol. Gofynnodd y Gweithgor am straen a phryder staff mewn perthynas â chwrdd wyneb yn wyneb, yn enwedig â’r cyhoedd. Cadarnhaodd swyddogion eu bod wrthi’n asesu beth fydd y risg ac yn rhoi mesurau priodol ar waith i sicrhau bod gan staff gyfarpar priodol a bod mesurau pellter cymdeithasol ar waith rhwng aelodau o staff a’r cyhoedd.

Trafodwyd straen a phryder staff a gofynnodd y Gweithgor a yw’r awdurdod yn cyflogi seicolegwyr yn y Tîm Lles ac a ellid cyflogi rhagor. Cadarnhaodd swyddogion fod ‘Therapyddion Siarad’ yn cael eu cyflogi a bod y gwasanaeth hwn yn amhrisiadwy i staff rheng flaen. Teimlai swyddogion fod hyn yn rhywbeth y mae angen ei adolygu pan fyddwn yn dod allan o’r pandemig, o dan Gynllunio’r Gweithlu.

Trafododd y Gweithgor faterion hefyd gan gynnwys:

  • Cyfleoedd ar gyfer Cymorth Cyntaf Seicolegol sy’n cael ei gynnal gan y Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol a Chorfforaethol, a gynigir i staff rheng flaen ym maes gofal cymdeithasol
  • Effeithiau staff sy’n gweithio gartref ar aelodau o’r cyhoedd nad ydynt efallai’n llythrennog ar gyfrifiadur a sut mae Cydlynwyr Ardaloedd Lleol a’r Trydydd Sector wedi helpu pobl fu’n gorfod symud i sianeli ar-lein ac yr oedd angen help arnynt
  • Dyfodol gweithio ystwyth y tu hwnt i’r pandemig
  • Awgrym y Gweithgor o gynnig swyddi gyda’r Awdurdod i weithwyr asiantaeth sydd wedi gweithio drwy’r pandemig.

Mae Cynullydd y Gweithgor, y Cyng. Cyril Anderson, wedi ysgrifennu at aelodau perthnasol y Cabinet i fyfyrio ar ganfyddiadau’r Gweithgor ac i ofyn am ragor o wybodaeth.

Cliciwch yma i weld y cyfarfod hwn ac i ddarllen yr holl adroddiadau a llythyrau a anfonwyd ac a dderbyniwyd gan y Cabinet.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.