Pwyllgor Craffu’n fodlon ar gynlluniau carlam i fynd i’r afael â digartrefedd yn ystod y pandemig

Cyfarfu Pwyllgor y Rhaglen Graffu ag Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau a thrafodwyd y cynnydd o ran gweithredu Strategaeth Digartrefedd 2018-22, ers ei mabwysiadu gan y Cabinet ym mis Tachwedd 2019.

Roedd y Pwyllgor am archwilio sut mae’r Strategaeth newydd wedi sicrhau gwelliant i wasanaethau, cyngor a chymorth o ran atal digartrefedd ac wrth ymdrin ag e’ lle mae’n bodoli; a pha effaith y mae’r pandemig wedi’i chael.

Clywodd y Pwyllgor fod y prawf ‘Angen Blaenoriaethol’ wedi’i atal oherwydd y pandemig er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu mynd i’r afael â digartrefedd ar frys. Bu gostyngiad dramatig yn nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd ers dechrau’r pandemig, fodd bynnag, arweiniodd hyn at gynnydd yn nifer y bobl a leolwyd mewn llety dros dro. Clywodd y Pwyllgor fod cyllid o Gronfa Cymorth mewn Argyfwng COVID Llywodraeth Cymru wedi talu am gostau ychwanegol.

Nododd y Pwyllgor ei bod yn bosib y bydd Llywodraeth Cymru’n deddfu deddfwriaeth i ddiddymu’r prawf ‘Angen Blaenoriaethol’, ac os bydd hyn yn digwydd, bydd effaith ar y polisi presennol ynghylch dyrannu tai a’r system bwyntiau, a chaiff pwysau ei roi ar adnoddau.

Bu gostyngiad sydyn yn nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd o 15-20 yn ystod 2019 i 2-3 ar hyn o bryd, fodd bynnag, mynegodd y Pwyllgor bryder y gallai’r niferoedd godi wrth i ni ddod allan o’r pandemig.

Clywodd y Pwyllgor fod y cyngor wedi gwneud cais llwyddiannus am £5.4 miliwn o gyllid cyfalaf Digartrefedd Cam 2 Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y llety un ystafell wely. Bydd yr arian hwn hefyd yn helpu i ddarparu cymorth ychwanegol, gan ganolbwyntio’n benodol ar ailgartrefu cyflym, iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.

Trafododd y Pwyllgor faterion hefyd gan gynnwys:

  • Y trafodaethau sy’n parhau ar hyn o bryd gyda’r Swyddfa Gartref mewn perthynas â symud ffoaduriaid ymlaen yn raddol o lety’r Swyddfa Gartref er mwyn lleihau straen ar lety dros dro.
  • Y cyngor yn gwreiddio’r ymagwedd ‘PIE’ (Amgylchedd sy’n Seicolegol Wybodus) o fewn y Gwasanaeth Digartrefedd.
  • Datblygu Siarter Digartrefedd Ieuenctid i ddarparu cymorth i’r rheini sy’n gadael gofal a chanolbwyntio ar beidio â lleoli teuluoedd mewn llety Gwely a Brecwast ac edrych ar ddarpariaeth tai y tu hwnt i unedau un ystafell wely ac ymdrechion i osgoi symud plant o amgylch ysgolion yn ddiangen.

Yn gyffredinol, roedd y gwaith a wnaed i ddarparu gwasanaethau digartrefedd a chymorth yn wyneb heriau anodd wedi gwneud argraff fawr ar y Pwyllgor. Canmolodd y pwyllgor waith caled yr holl staff yn ystod y pandemig; a’r cydweithio i ymdrin â digartrefedd o dan bwysau cynyddol a newidiadau o ran darparu gwasanaethau.

I weld y cyfarfod hwn a recordiwyd a chael rhagor o fanylion am yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfod hwn, cliciwch yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.