Cynghorwyr Craffu’n edrych ar y gwaith a wnaed i gynyddu cynhwysiad digidol yn Abertwe

Bu’r Gweithgor Craffu Cynhwysiad Digidol yn edrych ar y gwaith a wnaed gan yr awdurdod i gynyddu cynhwysiad digidol cyn ac ar ôl y pandemig, y gwaith sydd eisoes wedi’i baratoi ar gyfer 2021/22 a’r hyn y mae’r awdurdod wedi’i gynllunio ar gyfer y dyfodol, ar ôl COVID-19.

Trafododd y Gweithgor Strategaeth/Fframwaith Cynhwysiad Digidol y cyngor. Roedd y Gweithgor yn teimlo ei bod hi’n bwysig edrych ar sut mae pobl yn cael mynediad at wasanaethau’r cyngor yn awr o’i gymharu â’r cyfnod cyn y pandemig gan eu bod yn cydnabod bod y dirwedd wedi newid yn gyflym ers dechrau pandemig COVID-19.

Roedd y Gweithgor yn teimlo gan fod mwy o bobl ar-lein bellach ar ryw ffurf y dylai’r strategaeth ganolbwyntio mwy ar gydraddoldeb ac y dylid defnyddio’r teitl fframwaith ‘cydraddoldeb’ digidol yn hytrach na’r term cynhwysiad digidol gan y byddai hyn yn adlewyrchu’r strategaeth yn well wrth symud ymlaen.

Cytunodd y Gweithgor fod angen adolygu’r Fframwaith Strategol Cynhwysiad Digidol (FfSCD) yng ngolau data newydd sydd wedi dod i’r amlwg ar ôl y pandemig ac i adlewyrchu’r newid demograffig naturiol dros y blynyddoedd i ddod. Hysbyswyd y Gweithgor fod FfSCD drafft wedi’i ddatblygu cyn COVID ac y caiff ei adolygu’n awr. Mae’r Gweithgor wedi gofyn a ellir cysylltu â hwy ar yr adeg briodol er mwyn iddynt gyfrannu at y darn hwn o waith.

Clywodd y Gweithgor fod amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu’n cael eu defnyddio i gyrraedd preswylwyr Abertawe, p’un a ydynt wedi’u heithrio’n ddigidol neu beidio. Roedd y Gweithgor yn arbennig o falch o glywed am y ‘Sgwrsfot’ a aeth yn fyw yn ystod y pandemig i gynorthwyo pobl wrth iddynt chwilio am wybodaeth ynghylch trais domestig ac am gael eu cyfeirio at gymorth. Roedd y Gweithgor yn teimlo bod hyn yn enghraifft dda o sut gallwn ddefnyddio’n gwefan i gynorthwyo’r rheini â’r angen mwyaf.

Clywodd y Gweithgor fod gwefan newydd a gwell yn cael ei datblygu ar draws y cyngor. Mae’r gwelliannau arfaethedig yn cynnwys: arfer da o ran hygyrchedd a’r defnydd o Gymraeg a Saesneg syml. Mae rheolwr y wefan yn gweithio gyda’r swyddog Mynediad at Wasanaethau fel y gofynnir am farn gwahanol grwpiau cydraddoldeb. Disgwylir i’r wefan newydd fod yn barod ar ddiwedd yr haf, ac mae’r Gweithgor wedi gofyn a ellir cysylltu â nhw ar yr adeg briodol i ddarparu adborth a syniadau ar ddyluniad y wefan newydd.

Llongyfarchodd y Gweithgor swyddogion am y gwaith da a wnaed hyd yma ac yn enwedig drwy gydol yr amserau caled a gafwyd yn ystod y pandemig. Yn gyffredinol, roedd y Gweithgor yn cytuno bod y cyngor ar y trywydd iawn o ran ei Strategaeth Cynhwysiad Digidol ac yn cydnabod bod y cyngor yn awyddus i wneud y gwelliannau iawn.

Mynegodd y Gweithgor ddymuniad i ailystyried y mater hwn yn flynyddol o ystyried ei bwysigrwydd a’r gwaith y mae’r awdurdod yn parhau i’w wneud i wella yn y maes hwn. 

Cliciwch yma i weld y cyfarfod hwn ac i ddarllen yr holl adroddiadau a llythyrau a anfonwyd ac a dderbyniwyd gan y Cabinet.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.