Cynghorwyr Craffu’n falch iawn gyda llythyr y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid sy’n llacio’r rhybudd ar Wasanaethau Troseddau Ieuenctid yn Abertawe

Cyfarfu’r Panel Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ym mis Mai i gael y diweddaraf am y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAHMS) a sesiwn friffio ar y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid.

Clywodd y Panel fod elfennau gwasanaeth ar y cyd wedi arafu oherwydd COVID a bod effaith y llynedd ar iechyd meddwl pobl ifanc wedi bod yn sylweddol.

Holodd y Panel ynghylch yr amser aros am y Gwasanaeth Datblygiad Niwroleg ac er y cafwyd gwelliant i ddechrau gydag 80% yn cael eu cwblhau o fewn 6 mis, mae cynnydd o deirgwaith hynny mewn atgyfeiriadau erbyn hyn gydag amser aros o dros 6 mis ar hyn o bryd. Cynhelir trafodaethau ledled Cymru ynghylch yr hyn y gellir ei wneud ac mae’r mater hwn yn cael ei adolygu gan fod angen ei wella.

Roedd y Panel yn falch o weld bod un pwynt mynediad ar waith, rhywbeth a argymhellwyd yn flaenorol gan y Panel Craffu CAMHS. Bydd angen ailddatblygu rhai o’r dangosyddion perfformiad i ddangos yr hyn y mae angen ei wybod yn lleol ac i ddangos tystiolaeth o’r gwaith sydd bellach yn cael ei wneud. Mae’r panel yn edrych ymlaen at weld perfformiad CAHMS yn yr Adroddiadau Monitro Perfformiad sy’n cael eu cyflwyno i’r tîm Craffu.

Roedd y Panel yn falch o glywed y bydd y llinellau ffôn Un Pwynt Mynediad ar agor 5 niwrnod yr wythnos yn hytrach na dwy awr yr wythnos, fel yn flaenorol a bod y Gwasanaeth Argyfwng (Crisis) ar gael dros y penwythnos.

Clywodd y Panel fod ap newydd o’r enw ‘Kooth’ ar gael i blant a’i fod yn cael ei gynnig gan Fae Abertawe.  Hefyd mae gwefan ranbarthol newydd yn lansio ym mis Mehefin.

Mae Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol o’r farn bod y cynnydd a wnaed gyda CAMHS yn dda iawn a bod y continwwm cefnogaeth yn llawer mwy datblygedig. Ychwanegodd er bod gan CAHMS arbenigol broblemau o ran galw, mae’n teimlo’n hyderus y gallant bellach gael trafodaethau ynghylch sut i geisio mynd i’r afael â’r cynnydd tymor byr yn y galw.

Sicrhawyd y Panel, er gwaethaf y pwysau, y gall y gwasanaeth ddarparu ymateb brys pan fydd plentyn mewn argyfwng go iawn. Roedd y Panel hefyd yn falch o glywed bod holl staff y Tîm Argyfwng ar gael ac y byddant yn gallu ymateb i blentyn mewn argyfwng go iawn, er gwaethaf y ffaith nad oes digon o welyau ar gael. Llongyfarchodd y Panel bawb ar y cynnydd da a wnaed er gwaetha’r pandemig a gobeithiwyd y byddai hyn yn parhau.

Derbyniodd y Panel hefyd sesiwn friffio ar y cynnydd a wnaed gyda’r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid. Roedd y Panel yn falch iawn o glywed bod y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid wedi darparu llythyr llacio i’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid gan eu bod yn fodlon bod y gwasanaeth yn mynd i’r cyfeiriad iawn. Mae hyn yn gyflawniad ysgubol ac yn dangos gwelliant aruthrol o gymharu â llynedd. Mae’r gwasanaeth hefyd yn canolbwyntio’n barhaus ar y daith wella a chaiff y Cynllun Gweithredu a Gwella ei adolygu bob chwe mis.

Clywodd y Panel fod mwyafu’r Gwasanaeth Therapi Lleferydd wedi’i ariannu drwy fuddsoddiad pellach a’i fod yn cael ei arwain gan Abertawe i helpu pobl ifanc i ymgysylltu a deall yr hyn a ddisgwylir ganddynt. Mae’r gwasanaeth yn dechrau ym mis Gorffennaf ac mae’n system gyfathrebiadau effeithiol.

Darparodd uwch-swyddogion drosolwg o’r adroddiad monitro perfformiad diweddar, a oedd yn gadarnhaol iawn.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y Panel fod yr ymrwymiad partneriaeth yn amlwg a bod y dystiolaeth yn dangos gwelliant. Mae’n ffyddiog y bydd arolygwyr, pan fyddant yn dychwelyd, yn gweld gwelliant ac arloesedd sylweddol.

Mynegodd y Panel bryderon ynghylch cyfranogaeth pobl ifanc yn y reiadau ym Mayhill. Cadarnhaodd swyddogion fod ymateb cydlynol enfawr gyda 50 o asiantaethau’n cymryd rhan. Mae problemau ynghylch trais a phobl ifanc yn cael eu hystyried drwy Abertawe gyda phartneriaid, ac mae angen i barhau i feddwl am hyn a chynllunio. Mae Swyddogion o’r farn y dylai cynyddu presenoldeb yn y gymuned wneud gwahaniaeth.

I weld recordiad o’r cyfarfod hwn a darllen yr holl adroddiadau a llythyrau a anfonwyd ac a dderbyniwyd gan y Cabinet, cliciwch yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.