Cynnydd mewn materion iechyd meddwl a phryder ymhlith disgyblion yn dilyn COVID

Cyfarfu Cynghorwyr Craffu’r Panel Addysg fis diwethaf i gael y diweddaraf gan Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau am Wasanaethau Addysg Mewn Lleoliad Heblaw’r Ysgol (EOTAS) a Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Clywodd y Panel fod yr Uned Cyfeirio Disgyblion newydd ym Maes Derw yn cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion a staff, ond nid yw’r gwelliannau mewn EOTAS o ganlyniad i agor y cyfleuster hwn yn unig.

Mynegodd y Panel bryder ynghylch materion a oedd yn dod i’r amlwg yn dilyn COVID, fel disgyblion iau yn ei chael hi’n anodd ymgysylltu â’u cyfoedion yn yr ysgol, a bod hyn yn digwydd i ddisgyblion llawer iau nag o’r blaen. Yr effaith fwyaf yw’r cynnydd mewn materion iechyd meddwl a phryder, ac ail-ymgysylltu â rhai o’r disgyblion h?n. Roedd y Panel yn falch o glywed bod y gwasanaeth yn gweithio’n agos gydag asiantaethau partner eraill megis y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Tîm Troseddau Ieuenctid i helpu i ailgysylltu â’r bobl ifanc hyn.

Y Diweddaraf am Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

Mae Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Abertawe’n canolbwyntio ar angen am fuddsoddiad sy’n adlewyrchu’r heriau sy’n bodoli o hyd yn ein hysgolion.

Clywodd y Panel fod £51.5m wedi’i gymeradwyo ar gyfer Band A y rhaglen, sydd wedi gwella 9 o ysgolion yn Abertawe. Mae Band B bron teirgwaith maint Band A, gydag £149.497m wedi’i wario ar ysgolion. Cyflawnwyd hyn gyda llai o adnoddau ac er gwaethaf effaith COVID.

Mae nifer yr ysgolion sydd wedi elwa o waith cynnal a chadw cyfalaf, neu a fydd yn elwa ohono, yn cynnwys mwy nag 89 o ysgolion yng nghyfnod Band A a thros 63 o ysgolion yng nghyfnod Band B.

Roedd y Panel yn falch o glywed am y gwaith i leihau maint dosbarthiadau babanod, sy’n cynnwys amlen gyllid o £1.919m gan gynnwys gwaith ailfodelu mewnol i greu sylfeini ystafelloedd dosbarth newydd ac estyniadau i ystafelloedd dosbarth.

Mynegodd y Panel ei ddiolch i Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau a’r holl aelodau staff yn y gwasanaeth am eu gwaith caled wrth symud y rhaglen yn ei blaen yn effeithlon a chynnal amserlen y rhaglen, lle bo’n bosib, drwy gyfnod heriol COVID.

I weld recordiad o’r cyfarfod hwn ac i ddarllen yr holl adroddiadau a llythyrau a anfonwyd ac a dderbyniwyd gan y Cabinet, cliciwch yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.