Craffu: Gadewch i ni ei ddadansoddi

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed beth yw pwrpas craffu, pam y mae’n bodoli a pha fanteision a geir ohono?

Rydym wedi llunio’r arweiniad syml hwn i helpu i ateb y cwestiynau pwysig hyn.

Craffu

Eir ati i graffu drwy ‘holi effeithiol’ sy’n golygu gofyn y math o gwestiynau sy’n canfod ffeithiau pwysicaf mater a’r wybodaeth iawn.

Arweinir y gwaith craffu gan gynghorwyr. Mae gan Gyngor Abertawe 72 o gynghorwyr sydd wedi’u hethol yn lleol.

Mae 11 o’r cynghorwyr hyn yn Aelodau Cabinet a elwir hefyd yn Aelodau Gweithredol. Nhw yw’r prif wneuthurwyr polisi a phenderfyniadau yn y cyngor.

Mae gan bob Aelod Cabinet bortffolio gwahanol o adrannau a gwasanaethau yn y cyngor y mae’n gyfrifol amdanynt.

Mae gan weddill y cynghorwyr gyfle i fod yn rhan o’r broses graffu drwy wirfoddoli eu hamser. Eu rôl yn y maes craffu yw dal yr Aelodau Cabinet i gyfrif, bod yn llais y cyhoedd a helpu i ysgogi gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus y cyngor.

Cyfeirir at gynghorwyr sy’n rhan o’r gwaith craffu fel Cynghorwyr Craffu.

Mae tîm o staff y cyngor hefyd, sef Swyddogion Craffu, sy’n cefnogi’r Cynghorwyr Craffu yn eu gwaith.

Mae’r Tîm Craffu’n cyflawni amrywiaeth o dasgau. Maent yn trefnu cyfarfodydd, yn gofyn am adroddiadau, yn gweithio gydag adrannau i ddatblygu cynlluniau gwaith ac yn ysgrifennu’r holl lythyrau ac adroddiadau sy’n ymwneud â chraffu. Maent hefyd yn ymchwilio i bynciau ac yn trefnu grwpiau ffocws a phrosiectau cynnwys y cyhoedd eraill i olrhain effaith gwaith y Paneli Craffu.

Pam y mae angen Adran Graffu arnom?

Cyflwynwyd craffu gan y gyfraith drwy Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yng Nghymru a Lloegr. Mae’n rhwymedigaeth gyfreithiol i bob awdurdod lleol a chanddo drefniant gweithredol (a Chabinet sy’n gwneud penderfyniadau) gyflawni swyddogaeth ‘Trosolwg a Chraffu’. 

Y prif reswm y cyflwynwyd hwn yw oherwydd bod pob awdurdod lleol yn y DU, cyn y Ddeddf hon, yn arfer gwneud penderfyniadau drwy gyfarfodydd y cyngor llawn (yr holl gynghorwyr etholedig).

Ers cyflwyno Deddf Llywodraeth Leol 2000, gall awdurdodau lleol benodi Aelodau Cabinet i wneud y penderfyniadau, ac mae’n rhaid i weddill y cynghorwyr graffu ar yr Aelodau Cabinet drwy bwyllgorau craffu.

Yn gyffredinol, dylai pwyllgorau craffu adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol y cyngor – sy’n golygu y dylent gynrychioli’r partïon gwleidyddol a etholwyd.

Sut mae Craffu’n gweithio?

Trefnir gwaith cyffredinol Craffu gan Bwyllgor y Rhaglen Graffu. Gr?p o Gynghorwyr Craffu yw’r pwyllgor hwn sy’n trefnu ac yn rheoli’r hyn y creffir arno bob blwyddyn. Arweinir Pwyllgor y Rhaglen Graffu gan gadeirydd. Cadeirydd presennol Pwyllgor y Rhaglen Graffu yw’r Cynghorydd Peter Black.

Bydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu’n trafod materion gwahanol. Mae’r Pwyllgor fel arfer yn cwrdd bob mis a bydd yn aml yn cynnal sesiynau trafod gydag Aelodau’r Cabinet am gyfrifoldebau eu portffolio. Gall aelodau’r cyhoedd hefyd gyfrannu syniadau at y sesiynau hyn. Dosberthir cylchlythyr Craffu bob mis, y gallwch danysgrifio ar ei gyfer yma, fel y gallwch gael eich hysbysu ynghylch y sesiynau hyn.

Mae’r holl waith arall a wneir gan y Cynghorwyr Craffu’n cael ei wneud drwy grwpiau craffu gwahanol. Gelwir y rhain yn Baneli Craffu. Mae gan bob Panel Craffu gynullydd sy’n arwain y panel. Gwaith y cynullydd yw cadeirio’r holl gyfarfodydd a chysylltu ag Aelodau’r Cabinet drwy lythyrau i ofyn cwestiynau sydd gan y panel, rhoi argymhellion y mae’r panel wedi cytuno arnynt neu roi adborth cyffredinol o gyfarfodydd a gynhelir.

Mae 3 phrif fath o banel:

  1. Paneli Craffu Perfformiad – mae’r rhain yn cwrdd yn rheolaidd ac yn adolygu perfformiad rhai pynciau, er enghraifft, y Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, cyllidebau
  2. Paneli Ymchwiliad Craffu – mae’r paneli hyn yn edrych ar un pwnc yn fanwl am 6 i 9 mis ac yn llunio adroddiad sylweddol sy’n cynnwys tystiolaeth a syniadau am newid ar gyfer yr aelod perthnasol o’r Cabinet.
  3. Gweithgorau Craffu – cyfarfodydd untro yw’r rhain lle’r edrychir ar eitem o ddiddordeb mewn un cyfarfod ac yna llunnir llythyr gyda sylwadau a syniadau

Beth yw buddion craffu?

Mae craffu’n cynrychioli ‘llais’ y cyhoedd a gall gwestiynu Aelodau’r Cabinet ynghylch y gwaith maen nhw’n ei wneud. Drwy ofyn y cwestiynau iawn a darllen adroddiadau a anfonir atynt, gall y Cynghorwyr Craffu wneud sylwadau am yr hyn sy’n mynd yn dda a’r hyn y gellid ei wella.

Gan fod y gwaith craffu’n cael ei arwain gan gynghorwyr a etholwyd yn lleol, gallant fynegi safbwyntiau sy’n berthnasol i’w hardal leol a’r bobl leol sydd wedi’u hethol. Dyma’r hyn sy’n gwneud gwaith craffu’n werthfawr: hyrwyddo democratiaeth.

Mae cyfarfodydd craffu fel arfer yn agored i’r cyhoedd (oni nodir yn wahanol), ac felly gall aelodau’r cyhoedd ddefnyddio Craffu i sicrhau bod eu pryderon ynghylch gwasanaethau’r cyngor yn cael eu clywed. Oherwydd pandemig COVID-19, cynhelir cyfarfodydd craffu’n rhithwir ar hyn o bryd, a chaiff pob un ei recordio a’i lanlwytho i wefan Cyngor Abertawe

Mae gan Gynghorwyr Craffu’r p?er i ofyn i Aelodau’r Cabinet neu Swyddogion y Cyngor o holl adrannau’r cyngor ddod i’w cyfarfodydd craffu. Yn y cyfarfodydd hyn, mae Aelodau’r Cabinet a Swyddogion yn ateb cwestiynau ac yn cyflwyno neu’n trafod y gwaith maen nhw’n ei wneud o ran y gwasanaethau sy’n rhan o’u portffolio (neu eu hadran). Mae hyn yn helpu i sicrhau y caiff gwasanaethau’r cyngor eu gwella’n gyson.

Mae Cynghorwyr Craffu hefyd yn gallu helpu i wella polisïau sydd ar waith a rhoi mewnbwn ar bolisïau sy’n cael eu datblygu neu bolisïau newydd yr edrychir arnynt o bosib yn y dyfodol.

Ar ôl pob cyfarfod, anfonir llythyr neu adroddiad at yr aelod perthnasol o’r Cabinet sy’n egluro’r hyn roedd y panel yn ei feddwl am y cyfarfod a pham. Cyhoeddir yr holl lythyrau sy’n cael eu hanfon at y Cabinet a’u derbyn ganddo ar wefan y cyngor.

Mae’n bwysig nodi, er y gall Cynghorwyr Craffu roi argymhellion i wella i’r Cabinet, ni allant rymuso unrhyw argymhelliad os nad yw’r Cabinet yn cytuno, neu os nad yw’n gallu (am unrhyw reswm penodol) rhoi’r argymhellion a wnaed ar waith.

Mae gan Gynghorwyr Craffu’r p?er i “Alw i mewn’, sef i ofyn i’r Cabinet ailystyried penderfyniadau cyn eu rhoi ar waith.

Mae Craffu yno i gynrychioli’r bobl. Gall craffu effeithiol arwain at welliannau ym mholisïau a gweithdrefnau’r cyngor, sy’n beth da i bawb!

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.