Cynghorwyr Craffu yn trafod y posibiliadau o weithio’n rhagweithiol gyda’r Gwasanaethau i Oedolion i leihau derbyniadau brys i’r ysbyty

Cyfarfu Cynghorwyr Craffu ar Banel Craffu’r Gwasanaethau i Oedolion ar ddechrau’r mis diwethaf i drafod Rhaglen Trawsnewid y Gwasanaethau i Oedolion, Camau Gweithredu o Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) – ‘Drws Blaen Gofal Cymdeithasol i Oedolion’ ac Adolygiad Blynyddol y Cyfarwyddwr o Daliadau Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dyma grynodeb o’r hyn a drafodwyd, ond gallwch weld yr holl fanylion ac adroddiadau a gyflwynwyd yn y cyfarfod hwn drwy glicio yma.

Rhaglen Trawsnewid y Gwasanaethau i Oedolion

Gan ei bod wedi bod yn flwyddyn anarferol, clywodd y Panel fod y Rhaglen yn edrych ar fyw gyda COVID, gan gynnwys cynllunio wrth gefn ac adferiad, ond ei bod hefyd yn anelu’n uchel.

Holodd y Panel am fanylion unrhyw ddatblygiadau a allai fod wedi digwydd mewn perthynas â thechnoleg gynorthwyol, ac ymatebodd swyddogion fod cynlluniau technoleg gynorthwyol yn dal i gael eu datblygu ac y bydd papur briffio’n cael ei gyflwyno i’r Panel yn hwyrach yn y flwyddyn.

Gofynnodd y Panel am ofal cartref mewn ardaloedd gwledig, y problemau sy’n gysylltiedig â hyn a datblygu mentrau cymdeithasol. Cadarnhaodd swyddogion fod ailgomisiynu gofal cartref yn 2019/20 wedi gwella ehangiad a chwmpas mewn ardaloedd gwledig.   Clywodd y Panel fod y Gwasanaeth yn ceisio cefnogi datblygu modelau menter gymdeithasol priodol. Dechreuodd rhaglen y llynedd gyda Chyd-gynhyrchu Cymru a’r Trydydd Sector sef y Rhaglen ‘Cymunedau Gyda’n Gilydd’, sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau hyperleol yn cael eu harwain gan y gymuned, gan ddefnyddio adnoddau sydd ar gael i ddeall lle mae angen a bylchau mewn darpariaeth a nodi cyfleoedd i gefnogi busnesau ac unigolion lleol i grwpio gyda’i gilydd, i wneud y defnydd gorau o daliadau uniongyrchol neu i helpu busnesau newydd i ddechrau busnesau lleol.

Holodd y Panel, yn ogystal â chynlluniau rhyddhau ‘o’r ysbyty i’r cartref’, a oes cwmpas ar gyfer asesiadau rhyngasiantaethol rhagweithiol o bobl sy’n byw gartref o hyd. Teimlai’r Panel y gallai hyn atal y defnydd o dderbyniadau brys i gyfleusterau ysbyty yn y lle cyntaf a darparu gwasanaethau i breswylwyr y gallent eu cael ar ôl cyfnod o ofal yn yr ysbyty. Sicrhaodd swyddogion y Panel fod gan lawer o waith y Gyfarwyddiaeth ffocws tîm amlddisgyblaethol yn y gymuned. Eglurodd swyddogion hefyd fod y rhaglenni ‘Home First’ a ‘Keep me at home’ yn gweithio ochr yn ochr â’r ffrydiau gwaith rhanbarthol ac yn gweithio tuag at yr un canlyniad, sef atal pobl rhag mynd i’r ysbyty o gwbl neu os oes rhaid iddynt wneud, sicrhau y gallant ddychwelyd adref cyn gynted â phosib a’u bod yn gallu aros gartref hefyd.

Cwestiynodd y Panel y broses gwyno a gofynnodd am gael gweld adroddiad yn dangos crynodeb diweddar o nifer y cwynion a’r math o gwynion a dderbyniwyd a’r camau gweithredu a gymerwyd.

Camau gweithredu o Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru – ‘Drws Blaen Gofal Cymdeithasol i Oedolion’

Clywodd y Panel fod argymhellion allweddol o’r adroddiad archwilio yn cael eu datblygu fel rhan o’r Rhaglen Drawsnewid.

Cafodd y Panel yr wybodaeth ddiweddaraf am hyn ym mis Mawrth 2020 a chlywodd yn y cyfarfod hwn fod gwaith ynghylch pob maes a amlygwyd naill ai wedi datblygu’n sylweddol neu wedi’i gwblhau.

Cwestiynodd y Panel gysylltiad yr Awdurdod â’r Trydydd Sector/CGGA a gofynnodd a yw’n gytundebol ac a yw’n cael ei ariannu. Mae ychydig o lwybrau ariannu i CGGA gan gynnwys nifer o grantiau allanol ac mae’r Awdurdod yn rhoi cyllid craidd CGGA o ran yr agwedd gwasanaeth gwirfoddol, a hefyd ar gyfer gwaith craidd y mae CGGA yn ymgymryd ag ef, o dan Gytundeb Compact. Mae gan yr Awdurdod brosiectau eraill gyda nhw hefyd. Cynllunio ar gyfer gadael ar ôl cael cyllid yw ffocws yr Awdurdod a’r CGGA yn awr, gan fod angen deall y modelau buddion i benderfynu sut bydd y cyngor yn comisiynu yn y dyfodol.

Clywodd y Panel fod y Gwasanaeth Eirioli annibynnol ar gael i unrhyw berson neu ofalwr lle mae rhwystr iddynt gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Roedd y Panel am wybod rhagor am sut mae’r gwasanaeth hwn yn gweithredu ac mae swyddogion wedi cytuno i ddarparu rhagor o wybodaeth am hyn.

Adolygiad Blynyddol o Daliadau y Cyfarwyddwr

Mae Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Oedolion wedi argymell i’r Cabinet na ddylid cyflwyno taliadau newydd, ond dylid cynyddu taliadau presennol o 1.75% (ffigur ymgynghorol Llywodraeth Cymru). Derbyniwyd yr argymhelliad hwn gan y Cabinet.

Hysbyswyd y Panel fod y Gwasanaeth, ar ôl i adroddiad y Cyfarwyddwr gael ei gyflwyno i’r Cabinet, wedi edrych ar ddysgu o achos prawf ac wedi cynnal adolygiad i sicrhau nad yw trefn codi tâl yr Awdurdod yn wahaniaethol; mae swyddogion yn hyderus bod yr Awdurdod yn cydymffurfio’n llawn. Amlygodd yr adolygiad hwn hefyd y gallai’r Gwasanaeth wneud rhagor o waith ynghylch tryloywder, yn enwedig y ffyrdd y cynhelir asesiadau ariannol. Gofynnodd y Panel am gael gweld yr wybodaeth ynghylch hyn ac mae’r Cyfarwyddwr wedi cytuno i roi diweddariad pellach a rhannu gwybodaeth y bwriedir ei chyhoeddi unwaith y bydd yr holl waith wedi’i gwblhau.

Mae Cynullydd y Panel wedi ysgrifennu at Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol ac wedi gofyn am ymateb ysgrifenedig i’r canlynol erbyn 14 Gorffennaf 2021:

  • Gwybodaeth am arbedion ar y cyd rhwng y gyllideb
  • Gwybodaeth am y broses gwyno a dolenni arni
  • Rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Eiriolaeth
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf am waith sy’n ymwneud â thryloywder a’r hyn y bwriedir ei gyhoeddi i’w rannu â’r Panel ar ôl ei gwblhau
  • Cadarnhad o’r hyn y gellir ei ddarparu i’r Panel eleni mewn perthynas â ‘Chyllidebu Canlyniadol’.

Caiff y llythyr hwn a’r ymateb a ddisgwylir gan yr Aelod Cabinet eu cyhoeddi ar wefan y cyngor a gellir eu gweld yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.