Cynghorwyr Craffu’n hapus iawn gydag ymagwedd ‘busnes fel arfer’ y Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol, sydd wedi cynnal ei lefelau perfformiad er gwaetha’r pandemig

Cyfarfu Cynghorwyr Craffu’r Panel Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ag Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant ac uwch-swyddogion yn y gwasanaeth y mis diwethaf i gael y diweddaraf am gynnydd Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae’r Gorllewin, adborth cychwynnol ar Ymweliad Sicrwydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac adolygiad y panel o’r flwyddyn 2020-21 a rhaglen waith ddrafft 2021-22.

Diweddariad ar y Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol

Roedd y panel yn falch iawn o glywed, er gwaethaf y ffaith fod 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd oherwydd y pandemig, fod y gwasanaeth wedi gallu cynnal ei berfformiad drwy fabwysiadu ymagwedd ‘busnes fel arfer’ yn rhithwir.

Holodd y panel ynghylch nifer y plant a oedd yn aros i gael eu mabwysiadu ar hyn o bryd yn Abertawe, faint o rieni maeth sydd wedi’u nodi ac os oes plant yn aros mewn gofal maeth cyn cael eu mabwysiadu. Esboniodd swyddogion fod y gwasanaeth yn paru pedwar plentyn ar hyn o bryd, ac ar ddiwedd mis Ebrill 2021 roedd 15 pâr o rieni maeth wedi’u nodi ac, ar hyn o bryd, mae rhai mabwysiadwyr yn aros ond mae hyn yn newid o fis i fis. Os nad oes unrhyw fabwysiadwyr ar gael, mae’r gwasanaeth yn ailystyried ai maethu tymor hir yw’r cynllun cywir.

Roedd y panel yn pryderu’n flaenorol bod nifer y plant yn cynyddu, ac yn teimlo bod angen cynyddu nifer y mabwysiadwyr, ond mae’n ymddangos bod hyn wedi newid; teimlodd y panel fod yr adroddiad a gyflwynwyd yn dangos llawer o sefydlogrwydd.

Roedd rhai plant o Abertawe wedi’u lleoli â theuluoedd yn Lloegr, a gofynnodd y panel pam mae hyn yn angenrheidiol. Esboniodd swyddogion nad oedd unrhyw fabwysiadwyr addas ar gael yn lleol i gymryd grwpiau mwy o frodyr a chwiorydd na rhai ag anghenion ychwanegol, ac felly roedd y gwasanaeth yn defnyddio’r gofrestr fabwysiadu i nodi lleoliadau priodol iddynt mewn mannau ymhellach. Ar hyn o bryd mae gwaith marchnata’n cael ei wneud i geisio cynyddu nifer y mabwysiadwyr sy’n addas ar gyfer achosion o’r fath.

Ar y cyfan, teimlai’r panel fod yr adroddiad hwn yn gadarnhaol iawn, ac ychwanegodd Cynullydd y Panel, y Cynghorydd Paxton Hood-Williams, yn ei lythyr at Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant, mai’r adroddiad hwn oedd ‘y gorau y mae’r panel wedi’i weld am beth amser’, a diolchodd i’r holl staff ac i’r gwasanaeth am eu gwaith caled.

Trafododd y panel hefyd yr adborth cychwynnol a gafwyd gan ymweliad sicrwydd AGC, a oedd yn canolbwyntio ar ddau beth:

  1. Pa mor dda y mae’r awdurdod lleol yn cyflawni’i ddyletswyddau statudol
  2. Pa mor dda y mae’r awdurdod lleol yn atal yr angen i blant fynd i ofal

Dewisodd AGC bump achos ar hap i’w harchwilio.

Teimlai’r panel fod ychydig iawn o feirniadaeth am yr hyn y mae’r awdurdod lleol wedi bod yn ei wneud a bod yr adborth cychwynnol yn dda iawn. Bydd y panel yn adolygu’r adroddiad manwl yn ei gyfarfod nesaf ym mis Awst.

Adolygiad o Raglen Waith Panel Craffu Perfformiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd 2020-21 a rhagolwg ar Raglen Waith ddrafft 2021-22

Nododd y Cynghorydd Paxton Hood-Williams ei bod wedi bod yn flwyddyn anodd i’r tîm craffu ac yn flwyddyn anodd i reolwyr a staff y Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn ystod anterth y pandemig cynhaliwyd tri chyfarfod ar y cyd gyda Phanel Craffu’r Gwasanaethau i Oedolion er mwyn cael y diweddaraf am ymdrin â’r pandemig.

Ychwanegodd fod y flwyddyn ddiwethaf wedi dangos ffordd dda ymlaen i’r panel; bydd pynciau sy’n berthnasol i Baneli’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau i Oedolion yn cael eu trafod gan un panel, gydag aelodau’r panel arall yn cael eu gwahodd i fod yn bresennol – bydd hyn yn lleihau’r straen ar amser swyddogion.

O ran y rhaglen waith ddrafft ar gyfer 2021-22, teimlai’r panel ei fod yn bwysig edrych ar achosion sy’n cael eu cau yn yr adroddiad perfformiad, a gofynnodd am weld enghreifftiau ymarferol. Awgrymodd y Pennaeth Gwasanaeth y dylai’r Panel wylio fideos ar ‘Ymchwiliad Gwerthfawrogol’ o bryd i’w gilydd yng nghyfarfodydd y panel. Cytunodd y panel ac mae’n edrych ymlaen at weld fideos o’r fath yn y dyfodol agos.

Cliciwch yma i weld manylion y trafodaethau a gafwyd yn y cyfarfod hwn ac i ddarllen yr holl adroddiadau a llythyrau a anfonwyd i’r Cabinet ac a dderbyniwyd ganddo.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.