Cynghorwyr Craffu’n canolbwyntio ar strategaethau a roddwyd ar waith gan y cyngor i wella ansawdd aer yn Abertawe

Cyfarfu Cynghorwyr Craffu ar Banel Craffu’r Amgylchedd Naturiol yn hwyr ym mis Mehefin i drafod ansawdd aer yn Abertawe a’r strategaethau sy’n cael eu rhoi ar waith ar hyn o bryd gan y cyngor.

Roedd y panel yn falch o glywed bod ‘Sgrîn Werdd’ a dadansoddwr PM2.5 wedi cael eu gosod ar hyd Fabian Way ym mis Mawrth 2020. Bwriad yr ymdrech ar y cyd hwn gyda’r Tîm Cadwraeth Natur yw lliniaru dod i gysylltiad â llygredd motorau. Mae’r panel yn edrych ymlaen at glywed diweddariadau ynghylch dadansoddi’r data sy’n ymwneud â’r prosiect hwn i ganfod a yw’r offer a osodwyd wedi cael effaith ar ansawdd yr aer a s?n.

Trafododd y panel faterion ynghylch monitro ansawdd aer hefyd. Clywodd y panel am effeithiau trawsffiniol ar ansawdd aer yn Abertawe gan gynnwys y lefelau uwch o lygredd aer yn ystod y cyfnod clo. Esboniodd swyddogion fod Cyngor Abertawe’n defnyddio dulliau monitro awtomatig a rhai nad ydynt yn awtomatig wrth gyflawni dyletswyddau Rheoli Ansawdd Aer lleol.

Cesglir a dadansoddir data llif traffig i helpu i ddeall mesuriadau ansawdd aer ar draws Abertawe. Holodd y panel a yw data’n cael ei gasglu ar amserau penodol, megis dyddiadau digwyddiadau mawr. Esboniodd swyddogion er nad yw’n ffocws ar hyn o bryd, fod y gallu’n bodoli i edrych ar ddiwrnodau/ddigwyddiadau penodol ac effaith dwysedd traffig uwch ar fesuriadau llygredd lleol.

Cododd aelodau’r panel y broblem o fotorau’n troi’n hamddenol wrth fannau casglu ger ysgolion a phryderon bod plant yn dod i gysylltiad â lefelau uchel o lygredd yn ystod yr amserau hyn. Ailadroddodd y Cynghorydd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella’r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd na ddylai bysus fod yn rhedeg yn rhy hir gyda’u motorau’n troi’n hamddenol. Mae hyn yn amodiad o fewn contractau darparwyr bysus. Awgrymodd Aelodau’r Panel y dylid annog gweithredwyr bysus i osod technoleg fonitro i fesur amseroedd motorau hamddenol. Derbyniodd y Cynghorydd Thomas yr awgrym hwn fel un i’w gynnwys o bosib yn y broses dendro nesaf.

Cyflwynodd Victoria Seller o Brifysgol Abertawe drosolwg o strategaethau ansawdd aer yng Nghymru yn y cyfarfod hwn. Roedd y panel yn bryderus i glywed bod ansawdd aer wedi’i gysylltu ag amrywiaeth eang o broblemau iechyd a’i fod yn briodoladwy i nifer mawr o farwolaethau cynnar yn y DU bob blwyddyn. Cyflwynwyd tystiolaeth hefyd sy’n cysylltu llygredd aer ag amddifadedd, sy’n effeithio ar rai cymunedau’n anghyfartal.

Mae croeso i aelodau’r cyhoedd gyfrannu at waith cynghorwyr craffu yn Abertawe, ac roedd aelodau’r panel felly’n falch o dderbyn dau gwestiwn gan aelodau’r cyhoedd ar gyfer y Cyng. Thomas:

  1. A fydd y cyngor yn cynnwys monitro a rheoli llygredd o stofiau llosgi pren domestig fel rhan o’i fesurau i leihau llygredd aer gronynnol? Tynnodd y Cyng. Thomas sylw at y ffaith nad oes modd cyflawni dull o fonitro/orfodi ar draws y ddinas, fodd bynnag, mae’r cyngor yn parhau i wneud gwelliannau i safonau a pholisïau ansawdd aer yn unol â chanllawiau’r llywodraeth. Cadarnhaodd swyddogion fod gan y cyngor, dan ddarpariaethau niwsans statudol, bwerau i ymateb i gwynion unigol ynghylch rheoli mwg a bydd yn ymchwilio i gwynion dilys a dderbynnir.
  2. Pwy yng Nghyngor Abertawe fydd yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth i fynd i’r afael â’r broblem ddifrifol hon (llygredd aer)? Pryd rhoddir y flaenoriaeth y mae’n ei haeddu iddo er mwyn arbed bywydau a mynd i’r afael â chost peidio â gweithredu? Cydnabu’r Cyng. Thomas hyn fel mater polisi ehangach ac ymrwymodd i ddarparu ateb ysgrifenedig llawn maes o law.

Mae’r Cynghorydd Peter Jones, Cynullydd y Panel wedi ysgrifennu at y Cyng. Thomas i amlygu’r trafodaethau a gynhaliwyd ac mae e’ wedi gofyn am ymateb ysgrifenedig. Cliciwch yma i weld y llythyr hwn a gweld manylion yr holl adroddiadau a thrafodaethau a gynhaliwyd yn y cyfarfod hwn.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.