Cynghorwyr Craffu’n ceisio sicrhad bod y Gwasanaethau Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymdopi â’r pwysau a fydd yn eu hwynebu yn y misoedd i ddod

Cyfarfu’r Panel Craffu ar y Gwasanaethau i Oedolion â’r Cyng. Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol, i drafod Adroddiad Monitro Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion, Mai 2021.

Roedd Aelodau’n teimlo y bydd y Tîm Iechyd Cymunedol yn wynebu pwysau cynyddol dros y misoedd i ddod. Nododd y Panel fod y rhan fwyaf o’r data a gyflwynwyd ‘yn anghydweddol’ i ryw raddau oherwydd y pandemig a gofynnwyd pryd bydd gan y Panel y ffigurau mwy cywir ar y Tîm Iechyd Meddwl. Holodd y panel hefyd sut y gellid sicrhau’r cyhoedd fod y Gwasanaethau Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymdopi â’r broblem.  Cadarnhaodd swyddogion mai’r newid yn y system a ddefnyddir sydd wedi achosi’r anghywirdebau. Mae anomaleddau ar System Wybodaeth newydd Gofal Cymunedol Cymru.  Fodd bynnag, bydd hyn yn gwella a bydd y panel mewn sefyllfa well pan fydd yn edrych ar ddata perfformiad y tro nesaf.

Mae gwaith o ran y Timau Iechyd Meddwl yn cael ei wneud mewn partneriaeth â’r Bwrdd Iechyd a sefydliadau’r Trydydd Sector. Caiff yr ymagwedd ranbarthol ei hysgogi gan gynlluniau o gwmpas y bwrdd Iechyd Meddwl a Lles. Dywedodd swyddogion y byddai un pwynt mynediad yn cael ei lansio yn y misoedd i ddod ac y gellir darparu rhagor o wybodaeth am weithgareddau mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Teimlai’r Panel y dylai gwybodaeth am y pwynt mynediad unigol gael ei hanfon at bob aelod ynghyd â rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael yn awr fel eu bod yn gwybod sut i atgyfeirio pobl. Teimlai’r Cyng. Child fod hyn yn syniad da ond atgoffodd y Panel na fyddai Aelodau’n gallu atgyfeirio unigolion i brosiectau penodol; rhaid i atgyfeiriadau fynd drwy asesiad gan weithiwr proffesiynol.

Teimlai’r Panel fod y gair ‘pwysau’ a ‘COVID’, problemau gyda niferoedd staff, cyflogi staff a phwysau ar gymunedau’n cael eu crybwyll yn aml yn yr adroddiad. Roedd y Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd wedi newid i ddarparu gofal i bobl gartref.   Holodd y panel a yw’r pwysau’n deillio o COVID neu oherwydd bod pobl yn disgwyl gormod gan y gwasanaeth.  Dywedodd swyddogion fod rhywfaint o broblem gan nad yw pobl am ddod i mewn. Yn ogystal, mae pobl a fu’n gweithio gartref wedi dychwelyd i’r gwaith ac mae pobl yn dechrau dweud eu bod wedi bod yn dioddef dan bwysau am 12 mis, ac y mae angen help arnynt bellach. O ganlyniad, gwelir pobl yn dod i’r Gwasanaethau Cymdeithasol mewn argyfwng.  Felly, teimlai swyddogion fod y pwysau’n gymysgedd o bopeth.

Mae llawer o’r rheini sy’n gofalu am bobl ag Anableddau Dysgu’n oedrannus. Roedd y Panel am wybod faint o gefnogaeth a ddarperir i’r gofalwyr hyn, a holwyd am y gefnogaeth sydd ar gael drwy’r Gwasanaethau Dydd.  Cadarnhaodd swyddogion fod y Gwasanaethau Dydd wedi bod yn gyfyngedig o ran gallu oherwydd mesurau cadw pellter cymdeithasol, a dim ond tua thraean o’r defnyddwyr gwasanaeth a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth oedd yn gallu gwneud hynny ar hyn o bryd.  Mae asesiadau i ofalwyr a thaliadau uniongyrchol yn cael eu cynnig ar hyn o bryd ac mae’r tîm yn ceisio darparu dewisiadau amgen i deuluoedd yn lle’r gwasanaethau dydd.

Ychwanegodd y Cyng. Child fod gofalwyr wedi gorfod gwneud llawer mwy nag y byddent wedi’i wneud dan amgylchiadau arferol a bod y Gyfarwyddiaeth bob amser wedi cydnabod y byddai galw am angen yn ddiweddarach pan fyddem yn dod allan o’r cyfnod clo.

Mae’r Cyng. Susan Jones, Cynullydd y Panel wedi ysgrifennu at y Cyng. Child yn cyfleu barn y Panel am y trafodaethau a gynhaliwyd yn y cyfarfod hwn. Cliciwch yma i weld y llythyr, y llythyr ymateb oddi wrth y Cyng. Child pan gaiff ei dderbyn, ac i weld recordiad o’r cyfarfod hwn.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.