Penaethiaid yn mynegi pryder ynghylch sut mae’r pandemig wedi effeithio ar ddisgyblion

Roedd penaethiaid ysgolion uwchradd Yr Esgob Gore a Phontarddulais yng nghyfarfod y Panel Craffu Addysg fis diwethaf i drafod sut maen nhw’n defnyddio’r arian maent wedi’i glustnodi ar gyfer eu strategaeth ymddygiad. Roedd y panel yn awyddus i ddarganfod sut mae ysgolion yn defnyddio’r arian hwn i leihau atgyfeiriadau i Wasanaethau Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS), i ailgyflwyno disgyblion yn ôl i ysgolion ar ôl mynychu gwasanaethau o’r fath a materion eraill sy’n ymwneud ag ymddygiad.

Roedd Aelodau’n falch o glywed bod y ddwy ysgol yn integreiddio disgyblion i ddarpariaeth brif ffrwd yn dilyn cyfnod EOTAS drwy ddefnyddio dull hybrid, gydag amserlenni penodol a chymysgedd o ddarpariaeth brif ffrwd. Mae effaith y gwaith a wneir yn y ddwy ysgol wedi lleihau nifer y gwaharddiadau a nifer yr atgyfeiriadau EOTAS, wedi gwella deilliannau addysgol ac wedi cynyddu hyder disgyblion.

Rhannwyd pryderon gan benaethiaid y ddwy ysgol, fodd bynnag roeddent yn ymwneud â sut mae’r pandemig wedi effeithio ar ddisgyblion ac ysgolion, gan gynnwys y canlynol:

  • Yr effaith negyddol ar iechyd meddwl rhai disgyblion, gyda rhai disgyblion yn profi trawma ychwanegol, fel profedigaeth a phryderon ariannol.
  • Nid oedd rhai disgyblion diamddiffyn wedi cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu cyfunol (anfodlon/amharod/rhy bryderus i gymryd rhan mewn dysgu ar-lein)
  • Nid oedd disgyblion y nodwyd bod ganddynt anghenion ychwanegol gan gynnwys anawsterau cymdeithasol emosiynol neu ymddygiadol (ACEY) yn gallu cael gafael ar y gefnogaeth a dderbynnir fel arfer yn yr ysgol

Rhannodd y panel y pryderon hyn gan gydnabod bod ysgolion yn gweithio i fynd i’r afael â’r materion hyn gan fod disgyblion yn ôl yn yr ysgol amser llawn, ond roedd am bwysleisio pwysigrwydd rhoi cefnogaeth barhaus i ysgolion ar y materion hyn.

Roedd aelodau’n falch iawn o glywed bod yr arfer da a ddangoswyd gan ysgolion yn cael ei rannu drwy nifer o ddulliau ffurfiol ac anffurfiol ar lwyfannau ar-lein.

Mae’r Cynghorydd Lyndon Jones, cynullydd y panel, wedi ysgrifennu at y Cynghorydd Robert Smith, Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, i amlinellu meddyliau’r panel. Mae hefyd wedi gofyn am ymateb ysgrifenedig ganddo, gan groesawu barn y Cyng. Smith ar y pwyntiau a godwyd gan y penaethiaid ar sut y gellir gwella’r strategaeth ymddygiad.

Mae’r llythyr hwn wedi’i gyhoeddi ar wefan y cyngor. Yma gallwch hefyd weld y llythyr o ymateb a dderbyniwyd oddi wrth Aelod y Cabinet, yr holl adroddiadau a gyflwynwyd a recordiad o’r cyfarfod.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.