Cynghorwyr Craffu’n trafod effeithiau’r pandemig ar y diwydiant twristiaeth

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Gwnaeth Pwyllgor y Rhaglen Graffu gwestiynu’r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, ar feysydd penodol o’i gyfrifoldebau portffolio, sef Twristiaeth, Rheoli Cyrchfannau a Marchnata a Hyrwyddo Busnesau a’r Ddinas. Clywodd y Panel am werth twristiaeth i’r economi leol ac effaith COVID-19 ar y diwydiant twristiaeth.

Clywodd Aelodau’r Pwyllgor am y blaenoriaethau strategol a amlinellir yn y Cynllun Gweithredu Adfer Twristiaeth (CGAT), a ddatblygwyd fel rhan o’r strategaeth adfer ar gyfer y Sector Twristiaeth ac sy’n ffurfio rhan annatod o Adferiad Economaidd ehangach Cyngor Abertawe. Gweledigaeth y CGAT yw ‘creu cyrchfan twristiaeth o’r radd flaenaf sy’n cyflwyno profiad ymwelwyr o safon mewn amgylchedd pleserus, glân ac wedi’i gynnal yn dda.’

Gwnaeth y Pwyllgor hefyd drafod effaith benodol y pandemig ar ganol y ddinas a chynlluniau adfer. Trafododd Aelodau’r Pwyllgor y nifer mawr o unedau gwag yn y Cwadrant, a chlywsant fod gwaith yn parhau gyda pherchnogion y Cwadrant a bod disgwyl i osodiadau newydd gael eu cyflwyno. Clywodd Aelodau’r Pwyllgor y bwriedir cyflwyno adroddiad ‘Strategaeth Ail-bwrpasu Canol y Ddinas’ i’r Cabinet ym mis Medi.

Mae Pwyllgor y Rhaglen Graffu’n cynnal sesiynau holi ac ateb rheolaidd gydag Aelodau’r Cabinet i archwilio blaenoriaethau Aelodau’r Cabinet, eu camau gweithredu, eu cyflawniadau a’u heffaith mewn perthynas â meysydd cyfrifoldeb penodol. Mae croeso i aelodau’r cyhoedd gyfrannu at y sesiynau hyn. Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr yma i gael gwybod pryd y cynhelir y sesiwn nesaf.

I weld manylion y trafodaethau a gafwyd yn y cyfarfod hwn, cliciwch yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.