Newidiadau i broses arolygu ysgolion Estyn

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Roedd Cynghorwyr craffu ar y Panel Perfformiad Addysg yn falch o glywed am y newidiadau sy’n cael eu gwneud i broses arolygu Estyn.

Yn eu cyfarfod yn gynnar ym mis Medi, cyfarfu’r panel â chynrychiolwyr o Estyn i drafod trefn newydd Estyn a’r hadolygiadau thematig.

Mae’r cyfarfod a’r cyflwyniad ar gael i’w gweld ar wefan y cyngor.

Clywodd y panel fod y newidiadau trosgynnol i’r drefn adrodd am arolygiadau a’r broses arolygu’n cynnwys naratif cyfoethocach sy’n disgrifio cryfderau’r ysgol a’r meysydd i’w gwella. Maent wedi cael gwared ar ddyfarniadau crynodol, ac adroddir am y cryfderau allweddol a’r meysydd i’w gwella’n unig.

Mae newid i’r cyfnod hysbysu y mae ysgolion yn ei gael ac nid oes newidiadau i’r gweithdrefnau dilynol, a bydd gwelliant sylweddol fel categori statudol a mesurau arbennig yn cael eu cynnwys o hyd.

Roedd y panel yn falch o glywed fod Estyn yn cydnabod yr heriau digynsail a wynebwyd gan ddysgwyr a’i teuluoedd yn y flwyddyn ddiwethaf. Maent yn ymestyn ataliad y rhaglen arolygu craidd i ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion i gynnwys tymor yr hydref 2021, felly ni fydd arolygiadau ysgolion yn cychwyn tan tymor y gwanwyn.

Tanysgrifiwch i’n Cylchlythyr Craffu misol yma i gael y diweddaraf am gyfarfodydd a gwaith y panel yn y dyfodol.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.