Cynghorwyr Craffu’n fodlon ar Gynllun Gwella’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Cyfarfu Cynghorwyr Craffu ar Banel y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn ddiweddar ag Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant ac uwch-swyddogion yn y gwasanaeth i drafod Cynllun Adfer cytunedig yr adran i adfer o bandemig COVID-19 a’i Gynllun Gwella.

Clywodd y Panel fod y gwasanaeth wedi ailystyried ei weledigaeth, sef ‘Gwneud yr hyn sy’n bwysig i wneud pethau’n well i blant, pobl ifanc a theuluoedd’ Teimlai aelodau’r panel yn gadarnhaol am ddyheadau gwella arfaethedig yr Adran sy’n cynnwys rhyddhau staff i ‘wneud y gwaith go iawn yn hytrach na gwaith papur’.

Trafododd aelodau’r Panel eu pryderon ynghylch faint o amser a dreuliwyd gan swyddogion wrth ddarparu’r holl wybodaeth ofynnol i Lywodraeth Cymru ac roeddent yn teimlo y dylai swyddogion ddwyn unrhyw bryderon i sylw’r aelodau Craffu. Clywodd y Panel fod yr Adran yn gweithio ar gasglu tystiolaeth dros amser am yr hyn sy’n ddefnyddiol neu beidio, gan ei fod yn bwysig seilio’r mater hwn gyda Llywodraeth Cymru ar dystiolaeth.

Derbyniodd y Panel ddiweddariad hefyd gan y Bwrdd Magu Plant Corfforaethol. Roedd y diweddariad hwn yn cynnwys fideo a wnaed gyda phlant sy’n derbyn gofal. Teimlai Aelodau’r Panel fod problemau’n cael eu cyfleu’n well pan roddir cyfle i blant siarad drostynt eu hunain. 

Mae pob cynghorydd yn Llywodraethwr ysgol, ac mae Aelodau’r Panel yn teimlo bod hyn yn rhoi cyfle i gynghorwyr holi’r Pennaeth a’r Uwch-dîm Rheoli ynghylch pa addysg a gofal a ddarperir i blant sy’n derbyn gofal mewn ysgolion.

Clywodd y Panel fod angen gwneud gwaith ar sut i wella’r cyfle dysgu i blant sy’n derbyn gofal a bod rhywfaint o gyfrifoldeb ynghlwm wrth yr addewidion a wnaed gan aelodau’r Bwrdd Magu Plant Corfforaethol.

Cododd y Panel bryderon ynghylch y diffyg data i ddangos y cynnydd a wnaed gan blant sy’n derbyn gofal mewn addysg o’i gymharu ag eraill. Mae swyddogion wedi cytuno i ddarparu’r wybodaeth i’r Panel.

Gallwch weld yr holl fanylion ac adroddiadau a gyflwynwyd yn y cyfarfod hwn drwy glicio yma, ac i gael y diweddaraf  ar waith y Panel yn y dyfodol, tanysgrifiwch i’n cylchlythyr yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.