Y cynnydd a wnaed ar safle’r Arena’n gwneud argraff ar Gynghorwyr Craffu

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Mae Aelodau’r Panel Craffu Datblygu ac Adfywio wedi bod ar daith dywys o gwmpas yr arena a’r ardal dirluniedig o’i chwmpas. Ymwelodd yr aelodau mewn grwpiau bach i gael golwg agosach ar y cynnydd parhaus sy’n cael ei wneud ar y safle. Esboniodd swyddogion y bydd dyluniad y safle’n helpu i gysylltu canol y ddinas yn well â’r glannau. Roedd gan gynghorwyr ddiddordeb mewn clywed am y lle amlbwrpasol a ddyluniwyd ar gyfer cynnal digwyddiadau llai yn ogystal â sioeau mwy.  Clywodd aelodau fod yr Arena sydd â lle i 3,500 o bobl yn bwriadu llwyfannu 160 o berfformiadau’r flwyddyn a fydd yn cynnwys comedi, theatr, cerddoriaeth fyw a gemau cyfrifiadurol, gan ddenu dros 23,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

Dangoswyd y tu mewn i fwyty newydd y pafiliwn hefyd i’r cynghorwyr, ac fe gerddon nhw ar draws y bont newydd. Arweiniwyd y daith o’r safle gan uwch-swyddogion Adfywio Ffisegol, cyn i’r lle gael ei drosglwyddo i Ambassador Theatre Group.

Roedd Aelodau’r Panel yn ddiolchgar i staff Buckingham Group Contractors a Chyngor Abertawe am hwyluso’r daith hon.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.