Ymchwiliad Craffu Caffael

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Mae’r Ymchwiliad Craffu Caffael yn symud yn ei flaen yn gyflym, gyda thystiolaeth wedi’i chasglu o holl adrannau’r cyngor, archwilio mewnol a gr?p o gontractwyr lleol.

Ar 10 Tachwedd, bydd y Panel yn siarad â Busnes Cymru am sut y byddant yn cefnogi ac yn hyfforddi busnesau bach yn enwedig mewn perthynas â phroses dendro/trefnu contractau’r cyngor.

Yn y cyfarfod hwn byddant yn edrych ar wahanol arfer o gwmpas y DU mewn perthynas a chaffael cymdeithasol a lleol, unrhyw ddata perfformiad a chymharu y mae’r cyngor yn ei ddefnyddio a hefyd unrhyw ganlyniadau arolygon defnyddwyr.

Mae’r Panel yn bwriadu dod â’r ymchwiliad i ben yn eu cyfarfod ar 24 Tachwedd, pan fyddant yn edrych ar yr holl dystiolaeth y maent wedi’i chasglu ac yn dechrau dod i gasgliadau.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad hwn neu os hoffech gyfrannu, cysylltwch â ni yn craffu@abertawe.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.