Cynghorwyr Craffu’n trafod effeithiau parhaus y pandemig ar gyllid; Adroddiad Monitro’r Gyllideb Ch1 – 2021-22

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Mae Cynghorwyr Craffu’r Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid wedi trafod Adroddiad Monitro Cyllideb Ch1 2021/22  â’r Prif Swyddog Cyllid.

Clywodd y Panel, er ei fod yn rhy gynnar i ragweld yn hyderus yr amrywiadau terfynol ar wariant y Gyfarwyddiaeth, roedd swyddogion yn teimlo, oherwydd effaith barhaus COVID-19 a sefyllfa derfynol 2020/21, y bydd diffyg o oddeutu £2 filiwn yn 2021-22.

Mae Cyngor Abertawe’n nodi cynlluniau yn ‘Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau’r Cynllun Adfer’ a fydd yn gweld gwasanaethau ar gyfer cymunedau’n cael eu trawsnewid i wynebu heriau cyfnod wedi COVID-19. Clywodd y Panel fod gwaith yn parhau yn y maes hwn i ddatblygu cynlluniau darparu gwasanaethau sy’n gysylltiedig â thargedau arbedion a blaenoriaethu gwasanaethau.

Clywodd y Panel fod £4.8 miliwn wedi’i dderbyn hyd yn hyn oddi wrth Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chostau ychwanegol a/neu golli incwm.

Esboniodd swyddogion fod effaith economaidd pandemig COVID ar gyfraddau casglu rhent yn cael ei monitro’n agos.

O ran casglu Treth y Cyngor, holodd aelodau’r Panel a fydd Llywodraeth Cymru’n bodloni’r diffyg o £2 filiwn yr adroddwyd amdano. Cydnabu swyddogion fod hyn yn fater parhaus, o ystyried y straen ar bobl a’u harian, a chadarnhawyd bod Llywodraeth Cymru’n parhau i fonitro’r mater.

Trafodwyd y cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol hefyd, gydag aelodau’r Panel yn holi pam yr oedd hyn, mewn termau go iawn, yn costio mwy na’r cynnydd o 1.25%. Esboniodd swyddogion ei fod mewn gwirionedd yn gynnydd o 10% (1% ar dreth o 10%)

Gofynnodd y Panel am ddatganiad ynghylch y cynnydd mewn prisiau ynni, a’r effaith ar Gyngor Abertawe. Mae swyddogion wedi darparu nodyn briffio, sydd wedi’i gyhoeddi ar wefan y cyngor ac y gellir ei weld yma.

I gael y diweddaraf am y Panel hwn, tanysgrifiwch i’n cylchlythyr yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.