Cynghorwyr Craffu’n trafod Gwella Ysgolion yn Abertawe

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Cyfarfu’r Panel Craffu Addysg yn ddiweddar ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, y Cynghorydd Robert Smith a’r Ymgynghorydd Gwella Ysgolion Arweiniol i edrych ar wella ysgolion.

Roedd y Panel yn fodlon ar y gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud gan y Tîm Gwella Ysgolion.

Trafododd Aelodau’r Panel gyrhaeddiad ysgolion ac roeddent yn awyddus i weld y cyngor yn bwrw ymlaen â gwella lefelau cyrhaeddiad disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim. Esboniodd swyddogion fod yr awdurdod ac ysgolion bellach yn defnyddio ymagwedd sy’n seiliedig ar dystiolaeth at wario’r Grant Datblygu Disgyblion (GDD) i helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn. Mae’r panel wedi gofyn i weld gwybodaeth am y cydberthyniad rhwng sut caiff y GDD ei wario a sut mae’n adlewyrchu mewn cyrhaeddiad cynyddol pan ddaw ar gael.

O ran mesur cyrhaeddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi cael gwared ar asesiadau athrawon y Cyfnod Sylfaen a diwedd Cyfnod Allweddol 2, felly mae angen datblygu ffordd newydd o fesur cyrhaeddiad.  Clywodd y Panel wrth i ysgolion ddatblygu prosesau asesu newydd, mai cwestiwn parhaus fydd sut y gallwn fel cyngor, ac yn wir fel gwlad, fesur a yw’r Cwricwlwm newydd i Gymru’n cael yr effaith a ddymunir.

Holodd y Panel ynghylch beth oedd yr heriau allweddol a fydd yn wynebu’r Tîm Gwella Ysgolion dros y 12 mis nesaf wrth gefnogi ysgolion, a chlywsant fod COVID yn dal yn broblem allweddol. Mae’r pwysau y mae ysgolion yn ei wynebu oherwydd COVID a chydbwyso hyn â dyletswyddau beunyddiol yn ‘real iawn’ o hyd. Amlygwyd cyflwyno’r cwricwlwm newydd a Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol hefyd yn feysydd her allweddol. Clywodd Aelodau’r Panel ei bod yn bwysig i’r Tîm Gwella Ysgolion sicrhau bod ysgolion yn symud ymlaen gyda phob un o’r materion hyn.

Cliciwch yma i weld rhagor o fanylion ynghylch yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfod hwn.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.