Diweddariad ar ddulliau rheoli perygl llifogydd y cyngor

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Cyfarfu Cynghorwyr Craffu ar Banel yr Amgylchedd Naturiol yn ddiweddar i edrych ar Reoli Perygl Llifogydd.

Roedd y Cynghorydd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella’r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd yn bresennol yn y cyfarfod i ddiweddaru’r panel, ac eglurodd bod y cyngor yn dibynnu’n drwm ar gyllid gan Lywodraeth Cymru i reoli’r broblem hon.

Ychwanegodd, yn ystod cyfnodau pan geir argyfwng llifogydd, y gofynnir am gymorth ar unwaith er mwyn ymdrin â’r sefyllfa ond ei bod hi’n arbennig o anodd yn y cyfnod hwn i ateb y galw am fagiau tywod.

Eglurodd swyddogion eu bod yn creu menter newydd ar gyfer criw gylïau ymatebol, â’r nod o ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau llifogydd unigol.

Trafodwyd dwysedd cynyddol glawiad a chlywodd y Panel y bydd darparu ar gyfer cyfnodau o law eithafol yn her ac y bydd angen parhau i ddatblygu mesurau ataliol i liniaru’r perygl o lifogydd.

Holodd y Panel ynghylch y diweddaraf ar y Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol mewn perthynas â wal amddiffyn rhag llifogydd y Mwmbwls. Esboniodd y Cyng. Thomas ei bod hi’n ymddangos bod y cyhoedd yn cefnogi’r cynllun ac y bydd tua £12 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn cael ei fuddsoddi gyda thystiolaeth yn awgrymu y bydd y perygl o lifogydd yn cael ei leihau ar gyfer dros 120 o eiddo.

Amlygodd swyddogion hefyd fod cwmpas i liniaru perygl llifogydd drwy isadeiledd gwyrdd ac atebion sy’n seiliedig ar natur, megis plannu mwy o goed i helpu i arafu llif d?r.

Canmolodd aelodau’r panel y gwaith gan ddiolch i’r holl staff sy’n ymwneud â gwaith Rheoli Perygl Llifogydd y cyngor.

Cliciwch yma i weld rhagor am y cyfarfod hwn.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.