Craffu ar Adroddiad Blynyddol Diogel Corfforaethol

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Ystyriodd Pwyllgor y Rhaglen Graffu’r Adroddiad Blynyddol ar Ddiogelu Corfforaethol, sef adolygiad o roi Polisi Diogelu Corfforaethol y cyngor ar waith, sy’n hyrwyddo’r ymagwedd fod “diogelu’n fusnes i bawb”.

Mae’r adroddiad blynyddol yn trafod saith maes gweithgarwch allweddol, a ddisgrifir fel: Llywodraethu Diogel, Cyflogaeth Ddiogel, Gweithlu Diogel, Arfer Diogel, Partneriaethau Diogel, Llais Diogel, a’r cyfan yn cyfrannu at Ddarparu Perfformiad Diogel.

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor a yw pwysau o ganlyniad i COVID, yn enwedig pwysau gweithlu ar y Gwasanaethau i Oedolion a’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi effeithio ar iechyd a gofal cymdeithasol neu gyflwyno unrhyw risgiau o ran diogelu. Sicrhawyd y Pwyllgor, er gwaethaf yr amgylchiadau anodd iawn, nad oedd partneriaid y cyngor ar unrhyw adeg wedi colli ffocws, ac mae timau diogelu penodol dynodedig wedi parhau i ddarparu cefnogaeth a dod o hyd i atebion i amddiffyn y rheini mewn angen taer.

Canolbwyntiodd y Pwyllgor ar sut mae’r cyngor yn sicrhau bod yr holl gontractwyr, cwmnïau ac unigolion sy’n gwneud gwaith ar ran y cyngor, p’un a yw hynny’n wirfoddol neu’n waith â thâl, yn cydymffurfio â Pholisïau Diogelu’r cyngor. Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor a yw hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan y cyngor ac os nad yw, sut caiff ymwybyddiaeth a chydymffurfiaeth eu harddangos i’r cyngor. Clywodd y Pwyllgor fod hwn yn waith ar y gweill o hyd, fodd bynnag mae dogfennau arweiniad ar gyfer contractwyr ar gael i ddangos rhai o’r pethau y mae angen iddynt eu gwneud i ddangos prawf o gydymffurfio.

Yn achos gwirfoddolwyr yn y trydydd sector, mae gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod lefel uchel o safon ar waith. Yn y cyfamser mae’r cyngor wedi gallu rhoi mynediad at ei ‘Gronfa Ddysgu’ ar-lein ac mae gwaith ar y gweill i sicrhau bod mynediad ar gyfer darparwyr allanol.

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor hefyd ba waith gwella sy’n cael ei wneud i sicrhau bod gwiriadau GDG ar gyfer contractwyr yn cael eu cwblhau yn unol â’r Polisi ac Asesiad Risg GDG newydd. Sicrhawyd yr Aelodau, er bod y gwaith hwn ar y gweill o hyd, byddai unrhyw gyllid y cyngor ar gyfer digwyddiadau cymunedol yn amodol ar wirfoddolwyr yn cwblhau gwiriad GDG.

Canmolodd y Pwyllgor ymdrechion parhaus y Gr?p Diogelu Corfforaethol ar draws y cyngor i sicrhau bod diogelu’n fusnes i bawb – nid mater ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg ydyw’n unig.

Cliciwch yma i weld rhagor am yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfod hwn.

I gael y diweddaraf am waith Pwyllgor y Rhaglen Graffu, tanysgrifiwch i’n cylchlythyr yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.