Cynghorwyr Craffu’n talu teyrnged i ofalwyr, teuluoedd, a ffrindiau’r rheini y mae angen gofal cartref arnynt am ymateb i’r her a dangos ymrwymiad mewn cyfnod mor anodd

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Mae Cynghorwyr Craffu sydd ar y Panel Gwasanaethau i Oedolion wedi derbyn diweddariad arall ar reoli COVID a Monitro Perfformiad mewn cyfarfod diweddar ag Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol, y Cynghorydd Mark Child.

Esboniodd y Cyng. Child fod gan y Gyfarwyddiaeth ryw lefel o anhawster ym mhob maes, bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r sefyllfa ac yn ceisio gwneud popeth yn ei gallu. Ychwanegodd fod trafodaethau’n cael eu cynnal ar gyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth symud ymlaen a sut y gallai hyn fod yn adlewyrchu’r hyn rydym yn mynd drwyddo a’r hyn rydym yn ei ddysgu’n awr.

Clywodd y Panel fod y diffygion presennol yn y gweithlu’n golygu bod y Gyfarwyddiaeth yn blaenoriaethu diogelu ac yn lleihau rhywfaint o’r gwaith mwy arferol y mae’n ei ddarparu i geisio goresgyn hyn.

Hysbyswyd y Panel hefyd am adolygiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru o effeithiolrwydd cefnogaeth awdurdodau lleol a byrddau iechyd i ofalwyr ar draws Cymru. Clywodd y Panel fod yr adolygiad yn cyflwyno darlun gonest, sydd ymhell islaw’r disgwyliadau, fodd bynnag nid oedd hyn yn syndod. Esboniodd y Cyng. Child nad yw’r adran, yn y sefyllfa bresennol, yn gallu mynd i’r afael â gwendidau strwythurol sylfaenol ond, gyda mewnbwn gan y Fforwm Gofalwyr, maent wedi gallu cynnig amrywiaeth o ffyrdd amgen i gefnogi gofalwyr.

Mae aelodau’r panel yn credu y gwelir y gwir ddarlun o’r effaith ar ofalwyr yn y chwe mis i’r deuddeng mis nesaf wrth i ni adfer o’r pandemig.

Canmolodd y Panel ofalwyr a holl staff eraill y Gwasanaethau Cymdeithasol am yr holl waith y maent yn ei wneud. Hefyd talwyd teyrnged i deuluoedd a ffrindiau sydd wedi ymateb i’r her ac wedi dangos ymrwymiad llwyr mewn cyfnod mor heriol.

I weld yr holl fanylion a diweddariadau a drafodwyd yn y cyfarfod hwn, cliciwch yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.