Cynghorwyr Craffu’n annog gwelliant yn y modd y mae’r cyngor yn mesur ac yn monitro effaith a llwyddiant ei ymdrechion i fynd i’r afael â thlodi yn Abertawe

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Adolygodd Pwyllgor y Rhaglen Graffu gynnydd, cyflawniadau a gweithrediad y Strategaeth Trechu Tlodi sy’n un o flaenoriaethau corfforaethol y cyngor.

Clywodd y Pwyllgor fod pandemig COVID-19 wedi effeithio’n anghyfartal ar aelwydydd incwm isel, gan wthio rhagor o bobl i dlodi, a’r rheini sy’n ei brofi ymhellach i dlodi, gan arwain at gynnydd yn y galw am wasanaethau gan gynnwys gwasanaethau cefnogi mewn argyfwng a chymhlethdodau cynyddol i’r rheini mewn angen.

Roedd y Cynghorwyr Alyson Pugh a Louise Gibbard, Aelodau’r Cabinet dros Gefnogi Cymunedau, yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor i roi cyfrif am waith ar Drechu Tlodi. Canmolwyd gwaith swyddogion sy’n ymwneud â Gwasanaeth Trechu Tlodi’r cyngor a darparwyd rhestr i’r Pwyllgor o gyflawniadau’r gwasanaeth ac astudiaethau achos o gefnogaeth i deuluoedd ac unigolion a thynnwyd sylw at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth i drechu tlodi. Clywodd yr aelodau hefyd fod Fforwm Tlodi Abertawe yn cynnal cyfarfodydd chwarterol.

Nododd Aelodau’r Pwyllgor fod yna risg barhaus i gyflwyno gwasanaethau a achosir gan y ddibyniaeth drom ar arian grant gyda thua 15% o gyllid craidd.

Cydnabu’r Pwyllgor fod llawer o waith da’n cael ei wneud ond teimlai y dylai’r cyngor fod mewn sefyllfa well i fonitro, mesur a dangos yn glir y llwyddiant o’r holl ymdrechion sylweddol sy’n cael eu gwneud. Teimlai’r aelodau nad yw’r gyfres o ddangosyddion perfformiad corfforaethol/cenedlaethol cyfredol ar eu pennau eu hunain yn adrodd yr hanes yn ddigonol, a dylai pob un o amcanion y cyngor fod â thargedau clir a mesur effeithiol, fel bod gwerth yr adnoddau sy’n cael eu buddsoddi i’w gweld.

Trafododd Aelodau’r Pwyllgor ag Aelodau’r Cabinet y posibilrwydd o adroddiad ‘perfformiad a chyflawniad’ gwell yn y dyfodol gyda thystiolaeth ategol i ddangos yn glir y cysylltiadau rhwng buddsoddiad a’r gweithgareddau/camau a gymerwyd. Teimlai Aelodau’r Pwyllgor fod mesur llwyddiant yn hanfodol i wirio a oedd camau gweithredu’n cael yr effaith a ddymunir.

Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn falch o weld cynnydd yn cael ei wneud gyda chreu’r Comisiwn Gwirionedd Tlodi, a oedd yn un o’r argymhellion a ddeilliodd o’r Ymchwiliad Craffu i Drechu Tlodi. Teimlai Aelodau’r Pwyllgor y bydd Comisiwn Gwirionedd Tlodi annibynnol yn ychwanegu gwerth ac yn gwella bywydau, trwy ddod â’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau amlasiantaeth allweddol ynghyd â phobl sydd â phrofiad uniongyrchol o dlodi at ei gilydd i gydweithio i sicrhau newidiadau, yn seiliedig ar faterion a godwyd gan y rheini sy’n profi tlodi.

Bydd y Pwyllgor yn ailystyried gwaith ar Drechu Tlodi i fonitro cynnydd yn agos, mynd ar drywydd materion a godwyd a galluogi safbwyntiau craffu i ddylanwadu ar gamau gweithredu a gwelliannau.

I ddarllen rhagor am yr hyn a drafodwyd yn y sesiwn graffu hon, cliciwch yma.

I gael y diweddaraf am holl waith Pwyllgor y Rhaglen Graffu, tanysgrifiwch i’n cylchlythyr misol yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.