Cynghorwyr Craffu’n canmol staff Ailgylchu a Thirlenwi am eu hymdrechion anhygoel

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Cyfarfu Cynghorwyr ar y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid yn ddiweddar ag Aelod y Cabinet dros Wella’r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, y Cynghorydd Mark Thomas, i drafod Adroddiad Perfformiad Blynyddol Ailgylchu a Thirlenwi 2020-21. 

Hysbyswyd y Panel y bydd Cyngor Abertawe’n symud i ffwrdd o weithrediadau tirlenwi er mwyn defnyddio cyfleuster Troi Gwastraff yn Ynni (EfW). Holodd Aelodau’r Panel a fyddai’r cynllun EfW hwn yn arwain at arbedion mewn costau tirlenwi. Esboniodd swyddogion fod EfW yn broses fwy costus, fodd bynnag, drwy gau’r safle tirlenwi mae’r costau gweithredu’n cael eu lleihau ac felly bydd yn fwy cost-effeithlon wrth symud ymlaen.

Cwestiynodd Aelodau’r Panel a fyddai’r cynlluniau EfW hefyd yn ychwanegu at yr ôl troed carbon, a chlywsant nad oes unrhyw gyfleusterau o’r fath yn Abertawe ar hyn o bryd ac felly mae’n rhaid i ni fynd i gostau trafnidiaeth ychwanegol, fodd bynnag bydd y costau hyn yn gwrthbwyso gyda’r gostyngiad yn ein gwastraff tirlenwi.

Esboniodd y Cynghorydd Thomas i’r Panel fod trafodaethau’n parhau i sicrhau contract gyda chyfleuster EfW ac y bydd rhagor o fanylion ar gael wedi i’r contractau gael eu cwblhau.

Cododd yr Aelodau bryderon ynghylch tipio anghyfreithlon, yn benodol mewn perthynas â chasglu pren. Esboniodd Swyddogion, mewn perthynas â phren peryglus, fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi darparu canllawiau ar sut i ddosbarthu pren, ac aeth swyddogion ati i egluro gwybodaeth bellach am yr hyn sy’n cyfrif fel pren peryglus a chynigion ar gyfer cael gwared arno.

Clywodd y Panel fod Cyngor Abertawe wedi cyflawni’r targed ailgylchu o 64% y llynedd, er gwaethaf heriau’r pandemig.

Cydnabu Aelodau’r Panel y gwaith gwych o weithredu cyfleusterau a pheiriannau gwaredu gwastraff yn ystod y pandemig, gan ganmol yr holl staff am eu hymdrechion anhygoel.

Cliciwch yma i weld yr holl fanylion a drafodwyd yn y cyfarfod hwn.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.