Cynghorwyr Craffu’n tynnu sylw at Wasanaethau Parcio’r cyngor

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Cyfarfu Pwyllgor y Rhaglen Graffu ag Aelod y Cabinet dros Wella’r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, y Cynghorydd Mark Thomas, i drafod agwedd benodol ar ei bortffolio Cabinet sef y Polisi, Rheoli a Gorfodi Parcio. Roedd hyn yn cwmpasu gwaith mewn perthynas â Meysydd Parcio oddi ar y Stryd, Gorfodi Parcio Sifil (cyfyngiadau parcio ar y stryd), safleoedd Parcio a Theithio a’r Gwasanaeth Cerbydau wedi’u Gadael.

Bu Aelodau’r Pwyllgor yn trafod yr anawsterau posib gyda gorfodi cilfachau parcio preswylwyr o ystyried bod hawlenni bellach yn ddi-bapur. Mae hyn yn ei gwneud yn amhosib i breswylwyr wirio bod cerbydau yn y cilfachau wedi’u parcio’n gyfreithlon. Awgrymodd y Pwyllgor, gan fod peth gwybodaeth eisoes ar gael i’r cyhoedd fel teipio rhif cofrestru cerbyd i wirio a oes gan gerbyd dreth neu MOT, y gall helpu pe bai modd hefyd i gael mynediad at wybodaeth ynghylch a oes gan gerbyd hawlen barcio i breswylwyr, fel y gall pobl alw am orfodi os oes angen. Hysbyswyd Aelodau’r Pwyllgor y byddai swyddogion yn ymchwilio i hyn, ond tybiwyd y byddai problemau ynghylch preifatrwydd a diogelu data.

Roedd y Cynghorydd Peter Black, Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu, wedi ysgrifennu at y Cyng. Thomas i gyfleu barn y Pwyllgor, gan ofyn am ymateb ysgrifenedig i awgrym y Pwyllgor am barcio i breswylwyr ac ymarferoldeb gwneud gwybodaeth am hawlenni parcio preswylwyr yn gyhoeddus.

Yn ei ymateb, roedd y Cyng. Thomas wedi esbonio nad oes cyfleuster ar hyn o bryd o fewn y feddalwedd yn y system hawlenni digidol Chipside MiPermit, i ganiatáu allforio data penodedig i’r rhyngrwyd heb fod perygl y gallai gwybodaeth arall gael ei chyrchu. Fodd bynnag, ychwanegodd y byddai trafodaethau’n cael eu cynnal â chynghorau eraill sy’n defnyddio’r system MiPermit i weld a fyddai diddordeb ehangach yn hyn, ac y codir hyn gyda datblygwyr meddalwedd Chipside i weld a allai datblygiadau pellach ganiatáu ar gyfer y swyddogaeth hon.

Tynnodd y Cyng. Thomas sylw at y ffaith y gall aelodau’r cyhoedd gysylltu â’r cyngor ynghylch unrhyw broblemau parcio i breswylwyr ac er na fyddent yn cael gwybod a oedd hawl i gerbyd barcio yno neu beidio, byddai’r Tîm Gorfodi yn cymryd y camau priodol. Pwysleisiodd na ddylai aelodau’r cyhoedd herio unigolion eu hunain, ond y dylent adael y gorfodi i’r cyngor.

O ran gorfodi ar y stryd, hysbyswyd y Pwyllgor mai diogelwch yw un o’r prif resymau dros annog cerbydau i beidio â stopio a pharcio mewn ardaloedd a allai beryglu diogelwch cerddwyr, beicwyr a modurwyr. 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor ba gamau gweithredu sy’n cael eu cymryd gan y cyngor gyda modurwyr sy’n parcio’u cerbydau’n ddigywilydd ar balmentydd yng nghanol y ddinas, sy’n broblem i gerddwyr a’r anabl yn ogystal ag achosi difrod. Esboniodd y Cyng. Thomas lle gwelir bod cerbydau’n torri gorchmynion traffig y byddai camau’n cael eu cymryd, fodd bynnag, tynnodd sylw at y ffaith mai cyfyngedig yw’r pwerau gorfodi ar ffyrdd sydd heb gyfyngiadau. Mewn achosion o’r fath, byddai parcio sy’n peri rhwystr/ar balmant yn fater i’r Heddlu, nid y cyngor.

Os oes gennych bryder ynghylch parcio i breswylwyr, gallwch e-bostio adran Gwasanaethau Parcio’r cyngor yn Meysydd.Parcio@abertawe.gov.uk.

Gallwch gael y diweddaraf ar waith Pwyllgor y Rhaglen Graffu drwy danysgrifio i’n cylchlythyr misol, yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.