Y diweddaraf am ddulliau rheoli mannau gwyrdd, chwyn ac ymylon glaswelltog y cyngor

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Yn ddiweddar, cyfarfu Cynghorwyr Craffu Panel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol i drafod dulliau’r cyngor o reoli mannau gwyrdd chwyn ac ymylon glaswelltog.

Y Panel fod rheoli chwyn yn cael ei redeg ar gontract tair blynedd gyda chwmni allanol. Yn 2021, wynebodd y rhaglen anawsterau sylweddol oherwydd glaw a thywydd garw. Esboniodd y Cynghorydd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella’r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, fod gan yr Adran Priffyrdd bellach lwfans cyllideb i greu tîm pwrpasol, sy’n canolbwyntio ar reoli chwyn mewn mannau lle ceir llawer ohono.

Mynegodd Aelodau’r Panel bryder ynghylch y defnydd o glyffosad a’r risg i iechyd pobl a lles rhai rhywogaethau o bryfed ac adar a holwyd am yr opsiwn cyfredol o wardiau’n dewis tynnu’n ôl o chwistrellu chwyn. Tynnodd y Cynghorydd Thomas sylw at y ffaith bod glyffosad yn gynnyrch sydd wedi’i drwyddedu’n llawn ac nad yw’r cyngor yn defnyddio cynnyrch anniogel yn y rhaglen rheoli chwyn. Esboniodd er na allai tai unigol dynnu’n ôl o’r rhaglen, y gallai wardiau neu strydoedd yn Abertawe dynnu’n ôl o’r rhaglen chwistrellu wythnosol.

Trafododd y Panel yr ymdrechion i wella bioamrywiaeth a chlywodd y bydd rhai ardaloedd o laswellt yn cael eu gadael i dyfu’n hirach sy’n annog twf blodau gwyllt. Roedd y cyhoedd weithiau’n ystyried ardaloedd sy’n cael eu gadael i ddatblygu’n ddolydd yn fannau wedi’u hesgeuluso. Awgrymodd Aelodau’r Panel y dylid codi arwyddion dros dro ar safleoedd dolydd i hysbysu’r cyhoedd yn well.

Clywodd y Panel fod cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi’r cyngor yn ddiweddar i brynu peiriannau ‘torri a chasglu’ arbenigol, sy’n caniatáu cael gwared ar doriadau glaswellt o safleoedd blodau gwyllt.

Cododd Aelodau’r Panel rai pryderon ynghylch y posibilrwydd o werthu mannau gwyrdd i aelodau’r cyhoedd ac maent wedi mynegi diddordeb mewn clywed rhagor am hyn, a’r broses sydd ar waith ar gyfer gwerthu safleoedd o’r fath i’r cyhoedd.

Roedd y Panel yn falch o glywed bod Swyddog Bioamrywiaeth wedi’i benodi ers i hyn gael ei argymell gan Banel Ymchwiliad Craffu’r Amgylchedd Naturiol. Fodd bynnag, mynegodd Aelodau’r Panel bryderon ynghylch natur ran-amser y swydd hon a chytunwyd y byddai ymrwymiad tymor hir i ariannu swydd amser llawn yn fuddiol.

Cliciwch yma i weld yr holl fanylion a drafodwyd yn y cyfarfod hwn.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.