Y diweddaraf am reoli pandemig COVID-19 o fewn y Gwasanaethau i Oedolion 

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Cyfarfu Panel Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion ym mis Ionawr i gael y diweddaraf am reoli pandemig COVID-19 a monitro perfformiad.

Roedd y Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol i’r cyfarfod, a dywedodd pa mor wych y bu staff, cydweithwyr a sefydliadau eraill dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Clywodd y Panel fod effeithiau Omicron wedi bod yn broblem go iawn, ond bod Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi gwneud cymaint o gynllunio wrth gefn ag y gallent i baratoi ar gyfer y brig rhagweledig.

Clywodd y Panel fod canlyniadau cael COVID-19 yn llawer llai ar hyn o bryd, hyd yn oed os oes rhaid i chi fynd i’r ysbyty.  Y prif fater i’r Gyfarwyddiaeth yw nifer y staff sydd â COVID neu sy’n gyswllt agos ac yn gorfod hunanynysu.

Clywodd y Panel fod nifer bach o staff mewn cartrefi gofal yn profi’n bositif, ond ni chafwyd naid sylweddol yn nifer yr heintiau ymhlith preswylwyr ac mae hyn yn awgrymu bod yr hyn a ddysgwyd am fesurau amddiffynnol wedi gweithio.

Trafodwyd y pwysau ar staff gofal hefyd oherwydd y niferoedd staff llai. Clywodd y Panel fod tua 40 o unigolion yn yr ysbyty gan nad yw’r gwasanaeth yn gallu cynnig gofal cartref ar eu cyfer. Fodd bynnag, mae gobaith y bydd cynnydd posib yn nifer y staff mewnol yn y gwasanaethau gofal cartref yn helpu i symud 40 o’r unigolion hyn allan o’r ysbyty.

Gofynnodd y Panel am eglurder ynghylch nifer y bobl sy’n aros i gael eu rhyddhau o’r ysbyty, p’un a oedd yn 40 i gyd neu’n 40 yn aros am becyn penodol. Cadarnhawyd bod tua 280 o unigolion yn cael eu hystyried yn feddygol addas i’w rhyddhau ar hyn o bryd. Gellid cefnogi tua 140 o’r rhain y tu allan i welyau ysbyty nawr pe bai gwasanaethau cymunedol yr awdurdod yn cael eu trefnu. Fodd bynnag dim ond 80 ohonynt sydd wedi’u hatgyfeirio, sy’n awgrymu nad yw’r prosesau mor effeithlon ag y dylent fod.  O’r 80 hyn, mae 40 ohonynt yn aros am ofal cartref.

Pwysleisiodd y Cyng. Child fod tua 200 o unigolion ar y cyfan yn aros am becyn gofal cartref, sy’n nifer sylweddol uwch nag yr hoffai ei weld.

Clywodd y Panel fod y Gyfarwyddiaeth hefyd yn ceisio ychwanegu staff at y cynnig preswyl mewnol ac, os gellir dod o hyd i ddigon o staff iechyd a gofal, mae posibilrwydd o ddynodi un cartref mewnol i ddarparu darpariaeth camu i lawr, a all alluogi i unigolion henoed bregus eu meddwl (EMI) sy’n aros am ddarpariaeth i adael yr ysbyty.

Hysbyswyd Aelodau’r Panel am bryder ynghylch unigolion yn y gymuned y mae ganddynt y lefel uchaf o angen, a bod angen i’r gyfarwyddiaeth gynllunio ar gyfer sefyllfa eithriadol lle nad oes digon o staff, ac efallai y bydd angen dynodi cartref mewnol fel lle y gallai’r unigolion hyn symud iddo, ond byddai angen staff gofal iechyd preswyl i wneud hyn.

Holodd y Panel hefyd a oes unrhyw brinder staff yn y Gwasanaethau i Oedolion a chlywodd fod problemau, yn benodol o ran cydnerthedd gofal cartref, yn enwedig ar gyfer darparwyr a gomisiynir yn allanol. Bydd y Gyfarwyddiaeth yn defnyddio ymagwedd ar y cyd wrth symud ymlaen, lle caiff darparwyr allanol eu cefnogi i recriwtio rhagor o staff ond hefyd edrych ar gynyddu’r cynnig mewnol.

Pwysleisiodd Aelodau’r Panel eu bod yn hynod ddiolchgar i’r holl staff, gan nodi pa mor ffodus rydym yn Abertawe.

I weld yr holl fanylion a drafodwyd yn y cyfarfod hwn, cliciwch yma.   

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.