Craffu ar gyllideb y cyngor

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Cyfarfu’r Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid ym mis Chwefror i drafod y cynigion ar gyfer y Gyllideb Flynyddol ac i ystyried yr adroddiadau amrywiol a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 17 Chwefror. Roedd y Cynghorydd Chris Holley, Cynullydd y Panel, yn bresennol yng nghyfarfod y Cabinet a chyflwynodd ganfyddiadau’r panel a’r adborth a dderbyniwyd gan Baneli Craffu’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg a ganolbwyntiai ar gynigion a oedd yn benodol i’r meysydd hyn.

Yn gyffredinol, roedd y Panel yn croesawu’r cynnydd mawr yn narpariaeth y gyllideb, gan nodi mai hwn oedd y cynnydd mwyaf o’i fath yn y blynyddoedd diwethaf.

Roedd y Panel hefyd yn croesawu cynnydd mewn gwariant mewn Addysg a’r Gwasanaethau Cymdeithasol, a gwariant ychwanegol i fuddsoddi mewn gwasanaethau yn Abertawe sydd wedi profi rhai gostyngiadau dros y blynyddoedd diwethaf yn unol â chyllidebau cyfyngedig. Mynegodd aelodau’r Panel obaith y bydd arian eleni’n helpu gydag atgyweiriadau i’r isadeiledd ledled Abertawe.

Nododd Aelodau’r Panel fodd bynnag mai cynnydd mawr untro mewn arian fydd hyn, ac nid yw’r ffigurau’n cael eu hadlewyrchu’n gyfartal ar draws y cynllun tair blynedd. Bydd angen bod yn ofalus wrth symud ymlaen, ac efallai na fydd modd ychwanegu at y Gronfa Cyfartalu Cyfalaf gyda’r lefelau buddsoddi uwch a welwyd ers 2016.

Mynegwyd pryderon gan y Panel Addysg ynghylch y cyllid  annigonol posib gan Lywodraeth Cymru ar gyfer:

  • Cyflwyno’r ddarpariaeth Prydau Ysgol am Ddim fesul cam i’r holl ddisgyblion cynradd
  • Goblygiadau’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol sy’n dod i’r amlwg

Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch y newid posib i’r mesur dirprwy sy’n seiliedig ar ddyraniad Prydau Ysgol am Ddim, sy’n ddangosydd a ddefnyddir ar gyfer cyllid ychwanegol mewn ysgolion i ddisgyblion sy’n agored i niwed. Mae’r Panel yn awyddus i weld sut yr eir i’r afael â hyn mewn newidiadau polisi sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru fel nad yw plant sy’n agored i niwed ar eu colled.

Trafododd aelodau’r Panel hefyd bryderon ynghylch costau ynni cynyddol i ysgolion a hoffent weld ysgolion yn newid i atebion mwy gwyrdd lle bo hynny’n ymarferol.

I weld y drafodaeth ar gynigion Cyllideb y Cyngor, gan gynnwys yr ymateb a ddisgwylir gan y Cynghorydd  Rob Stewart, Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a strategaeth i’r pwyntiau a godwyd yn y cyfarfod hwn, cliciwch yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.