Cynghorwyr Craffu’n mynd ar drywydd effaith y pandemig ar iechyd a lles staff

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Cyfarfu Cynghorwyr Craffu ar Weithgor y Gweithlu ym mis Chwefror i graffu’n fanwl ar effaith y pandemig ar iechyd a lles staff a sut mae’r cyngor yn cefnogi hyn.

Cyfarfu’r gweithgor i ddechrau ym mis Mawrth 2021 a thrafodwyd problemau ynghylch gweithio gartref, salwch staff, trosiant staff a’r defnydd o staff asiantaeth yn fanwl ganddynt. Cytunon nhw i gwrdd eto unwaith y derbyniwyd ac y dadansoddwyd canlyniadau ail arolwg staff am y problemau hyn.

Dyma grynodeb o gasgliad y gweithgor ond gallwch weld yr holl fanylion a drafodwyd yn y cyfarfod drwy glicio yma.

Mynegodd y Gweithgor pa mor ddefnyddiol oedd y sesiwn ddilynol ac roedd yr atebion a roddwyd i’r cwestiynau a ofynnwyd wedi tawelu eu meddyliau, a theimlent yn hyderus fod yr awdurdod yn symud ymlaen i’r cyfeiriad cywir o ran ei weithlu.

Roedd gan Aelodau rai pryderon ynghylch y posibilrwydd nad oedd arolwg diweddar yn wir adlewyrchiad o sut mae staff yn teimlo gan fod nifer yr ymatebion yn isel. Roeddent yn teimlo bod angen i’r awdurdod ddod o hyd i ffyrdd o gael mwy o ymatebion i arolygon ond maent yn sylweddoli fod hon yn dasg anodd I wella nifer yr ymatebion i arolygon staff yn y dyfodol, anogodd y Gweithgor swyddogion i wneud rhagor o gopïau caled o arolygon sydd ar gael yn hawdd; ceisio cynnig cymhellion i staff am gwblhau arolwg; ac ystyried cynnwys rhywbeth yng nghontractau staff newydd i’w hannog i gwblhau arolygon.

Trafododd y Gweithgor faterion ynghylch costau ynni cynyddol i staff sy’n gweithio gartref, ac roeddent yn falch bod gwybodaeth am sut i hawlio arian yn ôl o’r swyddfa dreth am weithio gartref ar gael yn hawdd i staff mewn ffyrdd amrywiol. Hoffai’r Aelodau weld negeseuon atgoffa o hyn yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd fel y gall yr holl staff cymwys fanteisio arno.

Teimlai’r Gweithgor y byddai’n ddefnyddiol cael ‘siop dan yr unto’ i gysylltu â hi os oes gan bobl sawl cwestiwn yr oeddent am gael atebion iddynt. Eglurwyd y gall y Ganolfan Gwasanaethau ateb nifer o gwestiynau gan staff a’r cyhoedd ar hyn o bryd. Roedd Aelodau’n falch o glywed y bydd holl swyddogaethau AD yn cael eu dwyn ynghyd dan un Pennaeth AD a Chanolfan Gwasanaethau, a’r gobaith yw y bydd hyn yn arwain at un Aelod Cabinet ar gyfer y portffolio hwn.

Mynegodd y Gweithgor ei ddiolch a’u cydnabyddiaeth am waith caled ac ymrwymiad yr holl staff, yr uwch-dîm rheoli a phawb yn y sefydliad, sydd wedi gweithio mor galed i wneud eu gwaith a chefnogi pobl Abertawe yn ystod cyfnod anodd iawn.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.