Cynghorwyr Craffu’n trafod ffigurau ar gyfer y gofrestr Amddiffyn Plant yn Abertawe

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Cyfarfu Panel y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ag Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant, y Cynghorydd Elliott King, i drafod Perfformiad a Staffio mewn Argyfwng yn y gwasanaeth.

Clywodd y Panel fod y nifer y plant ar y gofrestr amddiffyn plant yn parhau’n 200 sydd yn unol â lle y dylai fod. Fodd bynnag, mae nifer uwch o blant yn parhau i gael eu cofrestru ar adeg eu geni a gwelir mwy o blant heb eu geni yn Abertawe mewn amgylchiadau sy’n peri pryder. Clywodd y panel y bu gostyngiad amlwg yn nifer cyfartalog y diwrnodau y mae plant ar y gofrestr amddiffyn plant a bod y Gyfarwyddiaeth yn gwneud rhywfaint o ddadansoddiad o hyn er mwyn cael sicrwydd bod plant yn symud ymlaen yn y ffordd iawn.

Roedd y ffaith bod ffigurau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal wedi gostwng wedi creu argraff ar y Panel, yn enwedig yn yr amgylchiadau presennol. Cydnabuwyd yr Adran gan Aelodau’r Panel am hyn. Mynegodd Aelodau’r Panel bryder am y gefnogaeth i deuluoedd ffoaduriaid a cheiswyr lloches gan fod llawer yn cael eu lleoli dros dro ac yna’n cael eu symud i wahanol ran o’r ddinas. Holodd aelodau a wneir unrhyw ddarpariaeth arbennig a beth yw’r system gefnogaeth sydd ar eu cyfer. Cadarnhawyd os ydynt yn bodloni’r trothwy statudol neu’n dod drwy’r Ganolfan Cymorth Cynnar, fod y Gyfarwyddiaeth yn gweithio gyda gwasanaethau’r cyngor a gwasanaethau lleol i gynnig cefnogaeth i deuluoedd maent yn ymwybodol ohonynt.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfod hwn, gan gynnwys y diweddariad ar Staffio mewn Argyfwng yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.