Ymchwilio i arferion caffael y cyngor

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Mae Cynghorwyr Craffu wedi gorffen eu hymchwiliad i gaffael. Cwestiwn allweddol yr ymchwiliad yw “Beth y mae Cyngor Abertawe’n ei wneud i sicrhau ei fod yn caffael yn lleol, yn foesegol ac yn wyrdd wrth fod yn gost-effeithiol ac yn dryloyw yn ei arferion?’

Meddai Cynullydd y Panel, y Cynghorydd Chris Holley, ‘Fel rhan o’r ymchwiliad hwn, roeddem am sicrhau bod y cyngor yn ymdrechu i brynu nwyddau neu wasanaethau drwy ddefnyddio’r mantra hwn ac wrth wneud hynny, yn defnyddio’r dulliau mwyaf priodol ac yn ymgysylltu â’r bobl iawn.  Rydym yn awyddus i weld yr enghraifft o’r gwaith sy’n cael ei arwain gan y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â chydgynhyrchu, lle maent yn cael partneriaid, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd i gydgynhyrchu manylebau contract ar gyfer gwasanaethau.’

Cyfarfu Aelodau’r Panel â sefydliadau allanol amrywiol megis CGGA a Busnes Cymru, contractwyr a sawl aelod o’r Cabinet ynghyd â swyddogion o adrannau’r cyngor i gasglu tystiolaeth fanwl am sut mae caffael yn gweithredu yn Abertawe.

Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad canlynol:

  • Mae’n rhaid i gaffael gael ei gynnwys yng Nghynllun Adfer a thrawsnewid y cyngor a’i fod yn cyd-fynd yn glir ag amcanion allweddol y cyngor wrth symud ymlaen.
  • Mae glynu wrth ddeddfwriaeth a sicrhau bod polisi ac arfer lleol yn glir, yn effeithiol, yn dryloyw ac yn cael ei gymhwyso’n gyson, yn hanfodol.
  • Mae ansawdd yn ogystal â gwerth am arian yn angenrheidiol er mwyn cael y gwariant gorau o’r pwrs cyhoeddus.
  • Mae angen i ni ystyried sut bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar gaffael yn Abertawe.
  • Mae arfer caffael cadarnhaol, y gellir adeiladu arno a’i wreiddio ymhellach.
  • Mae angen i bawb sy’n ymrwymo i gontractau gyflawni’r ddyletswydd cydraddoldeb cyffredinol, nid yn unig y cyngor,
  • Mae tystiolaeth o arfer Amgylcheddol a Moesegol da y gellid adeiladu arno a’i wreiddio ymhellach.
  • Mae manteision i gydweithredu â phartneriaid ac eraill yn ein gweithgareddau caffael.
  • Mae angen fframwaith da ar gaffael effeithiol er mwyn monitro perfformiad a mesur llwyddiant sy’n hanfodol ar gyfer gwelliant parhaus.

Trefnir i Bwyllgor y Rhaglen Graffu gytuno ar yr Adroddiad Ymchwiliad terfynol ar 15 Mawrth 2022. Yna bydd yn mynd i’r Cabinet i’w ystyried a bydd yr argymhellion hynny y cytunwyd arnynt yn cael eu rhoi ar waith.

Bydd y Panel yn ymgynnull eto 6-9 mis ar ôl penderfyniad y Cabinet i weld effaith ei argymhellion.

Cliciwch yma i gael gwybod rhagor am yr ymchwiliad craffu hwn.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.