Y newyddion diweddaraf!

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Dyma gyfle i ni gael y diweddaraf ar bopeth sydd wedi digwydd ers y cynhaliwyd etholiadau Llywodraeth Leol 2022 a’r hyn sydd i ddod i’r criw Craffu.

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y cyngor

Yn dilyn etholiadau’r cyngor ym mis Mai, cynhaliodd y cyngor ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf ym mis Mehefin 2022. Yn y cyfarfod hwn etholwyd Arweinydd y Cyngor, a chawsom wybod pwy yr oedd wedi’u penodi’n Aelodau Cabinet. Ailetholodd Pwyllgor y Rhaglen Graffu hefyd y Cynghorydd Peter Black fel cadeirydd a’r Cynghorydd Terry Hennegan fel is-gadeirydd ar gyfer y flwyddyn 2022-2023.

Sefydlu Cynghorwyr Craffu

Fel rhan o Raglen Sefydlu’r cyngor ar gyfer Cynghorwyr, gwnaethom gynnal sesiynau Craffu i Gynghorwyr anweithredol ym mis Mehefin. Cyflwyniad i Graffu oedd hwn a oedd yn newydd i lawer o Gynghorwyr, ond roedd hefyd yn sesiwn loywi ar gyfer Cynghorwyr sy’n dychwelyd.

Cynhadledd Cynllunio Gwaith Craffu

Ar ddiwedd mis Mehefin 2022, cynhaliwyd y Gynhadledd Cynllunio Gwaith Craffu flynyddol. Diben y cyfarfod hwn oedd dod â’r holl Gynghorwyr anweithredol at ei gilydd i nodi pynciau a materion sy’n peri pryder er mwyn i’r PRhG eu hystyried wrth ddatblygu’r rhaglen waith flynyddol ar gyfer craffu.

Ystyriodd yr Aelodau faterion sy’n peri pryder i’r cyhoedd yn deillio o’r Arolwg Cynnwys y Cyhoedd – Craffu, materion a drafodwyd yn y wasg yn ogystal â materion sy’n peri pryder strategol o fewn y cyngor.

Cyfarfod cyntaf PRhG

Cynhaliodd PRhG ei gyfarfod swyddogol cyntaf ar 19 Gorffennaf 2022 i gytuno ar y Rhaglen Waith Craffu ar gyfer 2022/23. Cytunodd PRhG i’r paneli craffu canlynol gael eu sefydlu:

  • Panel Ymchwilio: Ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Paneli Perfformiad: Gwella Gwasanaethau a Chyllid, Addysg, Gwasanaethau i Oedolion, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Datblygu ac Adfywio, Newid yn yr Hinsawdd a Natur
  • Gweithgorau: Diogelwch ffyrdd, Cydgynhyrchu, Dinas Iach, Cyswllt Cwsmeriaid

Bydd llawer o faterion sy’n peri pryder hefyd yn cael eu trafod gan y Pwyllgor sy’n cyfarfod bob 4 wythnos a chanddo’i gynllun gwaith ei hun.

Gallwch weld y manylion a drafodwyd yn y cyfarfod hwn drwy glicio yma.

Beth sydd nesaf?

Nawr bod PRhG wedi cytuno ar ba bynciau yr edrychir arnynt a pha Baneli a Gweithgorau Craffu a fydd yn cael eu sefydlu, byddwn yn dechrau cynnal gweithgarwch craffu eto cyn bo hir.  Bydd cynghorwyr yn dewis pa Baneli/Gweithgorau y maent yn dymuno bod yn rhan ohonynt, yna bydd PRhG yn cytuno ar aelodaeth pob un ym mis Awst. Bydd Paneli Perfformiad, a fydd yn monitro ac yn herio darpariaeth gwasanaeth a pherfformiad, yn datblygu cynlluniau gwaith unigol yn seiliedig ar eu maes ffocws.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.