Cytunwyd bellach ar Raglen W aith Craffu 2022/23

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Mae Cynghorwyr Craffu bellach wedi cytuno ar y Rhaglen Waith Craffu flynyddol ar gyfer 2022/23.

Mae’r rhaglen yn cynnwys gwaith sy’n amrywio o archwilio trylwyr a monitro gweithgarwch yn rheolaidd, i graffu bras. Bydd ffocws cychwynnol ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel ymchwiliad manwl, i archwilio effeithiolrwydd gweithio mewn partneriaeth wrth ymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau a mynd i’r afael ag ef.

Bydd Cynghorwyr hefyd yn edrych ar ddiogelwch ar y ffyrdd, cydgynhyrchiad, Abertawe fel Dinas Iach a chyswllt cwsmeriaid fel gweithgorau untro.

Bydd Cynghorwyr yn parhau i fonitro gweithgareddau a herio perfformiad ar draws y cyngor, yn enwedig yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Datblygu ac Adfywio a Newid Hinsawdd a Natur.

Bydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn monitro’r rhaglen y cytunwyd arni, ond bydd hefyd yn edrych ar amrywiaeth eang o faterion gwasanaeth/polisi sy’n peri pryder, gan gynnwys trechu tlodi, tipio anghyfreithlon, digartrefedd a thai amlfeddiannaeth.

Mae’r gwaith hwn yn golygu bod craffu’n dal Aelodau’r Cabinet i gyfrif ac yn cyfrannu at wasanaethau, perfformiad, polisïau a phenderfyniadau gwell.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.