Ffocws ar yr Archifau a Hybiau Cymunedol

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwch craffu@abertawe.gov.uk

Drwy weithredu fel ‘cyfaill beirniadol’, mae gan y pwyllgor craffu’r cyfle i herio aelodau unigol o’r cabinet ar eu gweithredoedd a monitro perfformiad mewn perthynas â’u meysydd cyfrifoldeb. Yn ystod cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Rhaglen Graffu ym mis Awst, bu’r Aelodau’n trafod cyfrifoldebau portffolio’r Cyng. Elliot King, gan ganolbwyntio ar yr Archifau a Hybiau Cymunedol yn benodol.

Roedd Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Rob Stewart hefyd yn bresennol yn y cyfarfod i drafod prosiect yr Hybiau Cymunedol. Esboniodd y byddai’r ‘siopau dan yr unto’ hyn yn gwella’r gwasanaeth a roddir i’r cyhoedd drwy gyfuno gwasanaethau cyhoeddus allweddol mewn un ardal hygyrch, gan gynnwys Llyfrgell Ganolog, Gwasanaeth Archifau, Refeniw a Budd-daliadau, Opsiynau Tai, Dysgu Gydol Oes, Gwasanaethau Cyflogadwyedd a’r Ganolfan Gyswllt, ac mae trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda phartneriaid allanol.

Bu’r Pwyllgor yn holi Aelodau’r Cabinet ynghylch costau’r cynllun, gan amlygu’r angen i gyhoeddi’r costau hyn cyn gynted â phosib o ystyried yr argyfwng costau byw a phwysau eraill sy’n gysylltiedig â chostau. Roedd Cynghorwyr Craffu hefyd wedi mynegi rhai pryderon am y goblygiadau i’r Gwasanaeth Archifau a mynediad i’r cyhoedd yn y dyfodol pan y bydd wedi’i leoli yn yr Hwb Cymunedol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn a drafodwyd yn y cyfarfod hwn, gan gynnwys y drafodaeth fanwl am ddyfodol y Gwasanaeth Archifau, drwy glicio yma.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.