Galw am Dystiolaeth:

Ymchwiliad Craffu i ymddygiad gwrthgymdeithasol

Y prif ffocws ar gyfer yr ymchwiliad yw gweld sut mae’r cyngor a’i bartneriaid yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Abertawe.  Y cwestiwn allweddol felly yw:

Sut gall y cyngor sicrhau ei fod yn gweithio gyda’i bartneriaid i fynd i’r afael yn briodol ac yn effeithiol ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Abertawe?

Beth nad yw’n rhan o’r ymchwiliad? Achosion unigol o ymddygiad gwrthgymdeithasol (YG). Dim ond fel enghreifftiau o arfer.  Bydd gan yr ymchwiliad ffocws strategol, gyda throsolwg o rolau a chyfrifoldebau, blaenoriaethau, pwerau, profiad a thueddiadau cyfredol, gweithgarwch a chyflawniad partneriaeth a sut y gellir gwella pethau.

Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn perthynas â sut y darperir swyddogaethau’r cyngor a sut mae’n gweithio gyda’i bartneriaid ac eraill i fynd i’r afael ag ef mewn cymunedau ledled Abertawe. Bydd hefyd yn ystyried beth y mae’r cyngor yn ei wneud yn dda a’r hyn y gellid ei wella yn y maes hwn.

I helpu i ddeall y materion hyn ac ateb rhai o’r cwestiynau rydym yn gwahodd cyflwyniadau ysgrifenedig ar y llinellau ymholi canlynol:

  1. Effeithiolrwydd strategaethau, polisïau a gweithdrefnau wrth fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac a yw’r cyngor yn bodloni ei rwymedigaethau rheoliadol yn y maes hwn.
  2. Rôl y cyngor wrth fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a’i leihau. 
  3. Rôl partneriaid wrth fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a’i leihau.
  4. Pas mor dda y mae’r cyngor a’i bartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Abertawe a’i leihau. 
  5. Yr offer sydd ar gael i helpu’r cyngor a’i bartneriaid i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  6. Pa mor dda yw’r wybodaeth a ddarperir i’r cyhoedd, a’r modd y cyfathrebir â hwy.
  7. Monitro a rheoli perfformiad.
  8. Sut mae’r cyngor a’n partneriaid yn mynd i’r afael ag achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol. 
  9. Enghreifftiau o fentrau ac arfer da wrth fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau eraill.
  10. Goblygiadau Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol.

Hoffai’r panel glywed gan gynifer o aelodau’r cyhoedd a sefydliadau â phosib cyn gynted â phosib.

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth sy’n ymwneud â’r ymchwiliad hwn, gallwch wneud hynny drwy ysgrifennu atom yn:

E-bost:  craffu@abertawe.gov.uk

Post:  Y Tîm Craffu, Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4SN

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.