Mae angen blaenoriaethu darparu gwell cludiant cyhoeddus

 

Mae’r ffordd y darperir cludiant cyhoeddus yn newid. Mae gan y Cyngor lai o arian i gymorthdalu cludiant cyhoeddus; mae Llywodraeth Cymru wedi lleihau’r cyllid y mae’n ei roi i gwmnïau cludiant cyhoeddus;  mae cwmnïau cludiant cyhoeddus wedi ailasesu eu darpariaeth yn erbyn y ffactorau hyn a’r dirywiad cyffredinol yn niferoedd y teithwyr ac incwm. Dyma rai o’r prif ganfyddiadau a gafwyd yn yr ymchwiliad craffu ynghylch cludiant cyhoeddus a chynhwysiant cymdeithasol a gwblhawyd yn ddiweddar yn Abertawe.

6937627751_ca456d154a

Mae adroddiad y Panel Ymchwiliad Craffu – Cael bargen deg wrth deithio – yn cyflwyno nifer o argymhellion am sut y gall y Cyngor a’i bartneriaid gymryd camau i wella cludiant cyhoeddus a bod o fudd i bobl sy’n byw a gweithio yn Ninas a Sir Abertawe ac yn ymweld â hi.

Dywedir hyn gan Gynullydd y Panel, y Cynghorydd John Newbury yn ei ragair i’r adroddiad:

Yn ystod y cyfnod roeddem yn casglu tystiolaeth gwelom fod newidiadau yng nghyfundrefn cyllido cludiant cyhoeddus Llywodraeth Cymru wedi dechrau cael effaith negyddol ar ddarpariaeth bws yn Abertawe. Sylweddolom y byddai bylchau yn y rhwydwaith cludiant cyhoeddus yn parhau oherwydd y newidiadau hyn ac yn ôl pob tebyg, byddent yn gwaethygu. Daethom i’r casgliad y byddai angen i bob darparwr cludiant cyhoeddus, gan gynnwys darparwyr cludiant cymunedol, y Cyngor a defnyddwyr cludiant cyhoeddus weithio gyda’i gilydd mewn ffordd fwy craff ac arloesol i sicrhau nad yw ein rhwydwaith cludiant cyhoeddus yn atal ein gallu i gyflwyno blaenoriaethau polisi’r Cyngor.   

 

Wrth ddatblygu ei gasgliadau ac argymhellion clywodd y Panel dystiolaeth  gan swyddogion y cyngor, darparwyr cludiant cyhoeddus, darparwyr cludiant cymunedol, Gr?p Rhieni Ifanc Gweithredu ar Ran Plant, grwpiau a oedd yn cynrychioli’r anabl, y gymuned academaidd a Metro Gorllewin Swydd Efrog.

Mae’r adroddiad, a gyflwynir cyn hir i Gabinet y Cyngor, yn cynnig bod y Cyngor yn:

  • Adolygu sut y mae’n dosrannu’r cymhorthdal cludiant
  • Ymchwilio i bosibilrwydd y Cynllun Contract Ansawdd
  • Integreiddio cludiant cymunedol yn y rhwydwaith cludiant cyhoeddus
  • Cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol bod pob datblygiad cartrefi ac economaidd newydd yn darparu ar gyfer cludiant hygyrch drwy gynlluniau  isadeiledd a theithio
  • Gweithio gyda darparwyr cludiant cyhoeddus i sicrhau nad yw cerbydau yn rhwystro arosfannau bws
  • Sicrhau bod pob arhosfan bws yn hygyrch ac yn cwrdd â gofynion deddfwriaethol
  • Gweithio gyda darparwyr cludiant cyhoeddus i adolygu a gwella hyfforddiant cydraddoldeb gweithwyr.
  • Gofyn i gwmnïau cludiant cyhoeddus gael gweithdrefnau cwyno hygyrch
  • Sicrhau bod gwybodaeth am deithiau pellach ar gael mewn mannau priodol
  • Bod cynrychiolaeth gan y Cyngor ar baneli cwsmeriaid darparwyr cludiant cyhoeddus
  • Sicrhau bod cynlluniau cludiant cyhoeddus cywir yn eu lle ar gyfer y digwyddiad Paralympaidd Ewropeaidd 2014.

Gallwch lawrlwytho copi o’r adroddiad o’n Llyfrgell Adroddiadau Craffu

Cydnabyddiaeth llun: http://www.flickr.com/photos/sylvia/6937627751 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.