Mae cynnwys plant a phobl ifanc yn allweddol wrth wella lles mewn ysgolion

 

Mae’r hyn a wna ysgolion, y cyngor a phartneriaid i ddiwallu anghenion emosiynol plant yn hollbwysig i wella lles a chyrhaeddiad plant a phobl ifanc yn ein hysgolion.  Wrth ymdrechu’n gyson i wella safonau addysgol, mae’n rhaid ystyried lles pobl ifanc. Mae’n rhaid i ysgolion gydnabod pwysigrwydd materion lles yn gyson, nid yn unig er lles disgyblion yn y gymdeithas ehangach, ond hefyd er mwyn iddynt allu dysgu’n effeithiol yn yr ysgol.  Mae ymgynghori â phlant a phobl ifanc a’u cynnwys yn y broses benderfynu’n hanfodol. Mae’n rhaid i blant a phobl ifanc gael cyfle i fynegi eu barn ac mae’n rhaid gwrando ar y farn honno a’i pharchu.

300920131162 jpg (2)

Dyma rai o brif ganfyddiadau’r arolwg ymchwiliad craffu a gynhaliwyd yn ddiweddar o gyrhaeddiad a lles mewn ysgolion yn Abertawe.

Mae adroddiad y Panel Ymchwiliad Craffu, ‘Dysgu Gwersi‘, yn cynnig nifer o argymhellion ar sut gall ysgolion, y cyngor a phartneriaid wella lles yn ein hysgolion.

Dywed Cynullydd y Panel, y Cynghorydd Fiona Gordon, yn ei rhagair i’r adroddiad:

Fel grwp o gynghorwyr, roeddem am wybod sut roedd lles plant a phobl ifanc yn ein hysgolion yn cael sylw, yn hinsawdd y ras gyson i wella safonau a fesurir gan ganlyniadau arholiadau.  Roeddem yn falch o weld enghreifftiau o arfer ardderchog a blaengar sy’n arwain y sector ac rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn helpu i sicrhau mwy o gysondeb ar draws ysgolion i’n holl blant.

 

Dyma rai o’r cynigion yn yr adroddiad i Gabinet y Cyngor:

  • Dylai pob ysgol yn Abertawe, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion, ymrwymo i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a gweithio i gael ei chydnabod fel ysgol sy’n parchu hawliau.
  • Anogir ysgolion i weithio’n ehangach â’r partneriaid a’r sefydliadau niferus a allai, o bosib, gyflwyno rhannau o’r cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol mewn ysgolion.
  • Dylid ymchwilio i gyfryngau amrywiol ar gyfer hyfforddiant ehangach i lywodraethwyr, gan gynnwys defnydd ac argaeledd offer hyfforddi ar-lein, eu cynnwys mewn diwrnodau HMS priodol a’u gwahodd i gymryd rhan mewn hyfforddiant ‘ysgol gyfan’ ehangach.
  • Cyflwyno ymagwedd arweinwyr systemau i gyrff llywodraethu. Hynny yw, llywodraethwyr profiadol o ysgolion eraill ar draws y rhanbarthau’n cefnogi llywodraethwyr, a chynnig system ‘cyfaill’ o blith y llywodraethwyr presennol i lywodraethwyr newydd.
  • Dylid datblygu mwy o gysondeb wrth bontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd ar draws ysgolion yn Abertawe, gan gynnwys llunio dogfen ymgynghorol, yn seiliedig ar ‘yr hyn sy’n gweithio’, ar y cyd ag ysgolion ar draws yr awdurdod. Dylai hon fod ar gael ar-lein i ysgolion a llywodraethwyr ei chyrchu.
  • Ailystyried mesurau perfformiad ar gyfer plant a phobl ifanc i sicrhau nad ydynt yn mesur data gwrthrychol yn unig, ond sicrhau bod mesurau goddrychol yn cael eu hymgorffori hefyd.
  • Dylid datblygu rhagor o gyfleoedd i ysgolion rannu arfer da (gan gynnwys opsiynau ar-lein).

 

Gallwch lawrlwytho copi llawn o’r adroddiad o’n Llyfrgell Adroddiadau Craffu

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.