Mae rhaid i ni ysbrydoli ein pobl ifanc os ydym am leihau anweithgarwch economaidd

Mae anweithgarwch economaidd yn bryder mawr, yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Dyma fater lle na cheir atebion hawdd. Os yw’r Cyngor a’i bartneriaid i wneud gwahaniaeth, bydd angen dod o hyd i ddulliau newydd a ffyrdd newydd o gydweithio. Oherwydd y rhesymau hyn mae gr?p o gynghorwyr yn Abertawe wedi cynnal ymchwiliad manwl i’r pwnc heriol hwn. Un o’u prif gasgliadau yw bod angen gwneud mwy i helpu i godi gobeithion pobl ifanc cyn iddynt ddod i’r farchnad swyddi.

Job Centre Plus

Yn ystod y chwe mis diwethaf mae Panel Ymchwiliad Craffu wedi edrych ar y materion sy’n ymwneud â hyn mewn mwy o fanylder ac maent wedi cyfweld â gweithwyr proffesiynol o nifer o asiantaethau, yn ogystal  â defnyddwyr gwasanaeth, er mwyn deall y sefyllfa’n well ac i glywed eu pryderon. Mae’r adroddiad a gynhyrchwyd gan y Panel Ymchwiliad Craffu ‘Di-waith, nid Diwerth’ yn rhoi nifer o argymhellion, sy’n amlinellu’r hyn y mae’r Panel yn ei gredu y gall y Cyngor a’i bartneriaid ei wneud i leihau anweithgarwch economaidd.

Un o’r syniadau a oedd yn deillio o’r ymchwiliad oedd y dylid hyrwyddo addysg uwch a phellach ar oed iau mewn ysgol, fel bod plant yn dysgu o oed cynnar bod addysg i bawb, gan eu cynnwys nhw. Gobeithir wrth feithrin y wybodaeth bod llwyddiant o fewn cyrraedd pawb ac annog addysg y tu hwnt i fur yr ysgol, yn ogystal â hyrwyddo entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifanc, bydd llawer o bobl ifanc, sy’n ddi-waith ar hyn o bryd, neu mewn cyflogaeth nad yw’n talu llawer, yn ennill gyrfaoedd boddhaol a chwarae rhan bwysig mewn cymdeithas yn y dyfodol.

Roedd y Panel yn teimlo y byddai o fudd i blant ysgol pe byddai cynrychiolwyr o brifysgolion a cholegau’n mynychu ysgolion i siarad â phlant am addysg bellach ac uwch ac, yn fwy pwysig, eu bod yn eu hysbysu fel eu bod yn sylweddoli nad yw addysg bellach ac addysg uwch y tu hwnt i’w gafael ac y gallant ymgeisio i gyrraedd y fan hon pan fyddant yn gadael yr ysgol. Hefyd, roedd y Panel yn teimlo y dylid annog gwell cyfathrebu rhwng ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Mae rhai o’r cynigion eraill yn yr adroddiad yn cynnwys:

  1.  Ehangu cynlluniau prentisiaeth y tu hwnt i’r traddodiadol, gan gynnwys mewn swyddfeydd ac annog cyflogwyr lleol.
  2. Gwella mynediad at gyfleoedd cyflogaeth i’r anabl a darparu gwell cefnogaeth a gwasanaethau ar gyfer y gr?p di-waith cenhedlaeth a hir dymor
  3. Darparu cymhelliannau a chefnogaeth gynyddol i fusnesau mewn perthynas â materion recriwtio a chyflogaeth;
  4. ‘Un Pwynt Mynediad’ mewn perthynas â chyfleoedd cyflogaeth, fel bod gan pob gr?p fynediad cyfartal i swyddi/hyfforddiant a phrentisiaethau sydd ar gael.
  5. Mentrau gyda phobl ifanc yr ystyrir eu bod mewn perygl o fod yn NEET (Nid mewn Addysg, Cyflogaeth, na Hyfforddiant) o oed cynharach.
  6. Digwyddiadau entrepreneuriaeth rheolaidd i annog pobl ifanc.

Mae’r Cyngor yn gobeithio mynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd gyda help ei bartneriaid. Bydd y Cyngor yn monitro ei gynigion ac adrodd yn ôl am ei gasgliadau yn y dyfodol, felly ‘cadwch lygad am yr wybodaeth ddiweddaraf’.   

Gellir cael mynediad i’r adroddiad hwn yn Llyfrgell Craffu Abertawe (www.abertawe.gov.uk/scrutinylibrary)

 

 Credyd ffotograffau:http://flic.kr/p/5qpN2Q

 

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.