Tai Cymdeithasol ar yr agenda eto

houses_that_could_become_your_home_1

Credyd photo: Dinas a Sir Abertawe

Mae gweithgor craffu newydd wedi cael ei sefydlu.

Bydd cynghorwyr yn trafod y syniad o gael un restr aros ar gyfer tai fforddiadwy yn Abertawe. Byddai hyn yn golygu sefydlu un man cyswllt i bobl sydd am wneud cais am dai fforddiadwy, boed gan y cyngor neu un o gymdeithasau tai Abertawe. Daeth yr awgrym i ystyried y syniad hwn yn fanylach gan gynghorwyr ar y Panel Ymchwilio i Dai Fforddiadwy a gyfarfu’r llynedd.

Bydd y gweithgor yn cwrdd รข rhai o arbenigwyr tai’r cyngor i fanteisio ar eu harbenigedd wrth benderfynu a fyddai’r syniad hwn yn ymarferol. Bydd y gr?p hefyd yn edrych eto ar dystiolaeth a ddarparwyd gan gynrychiolwyr cymdeithasau tai yn ystod yr ymchwiliad i dai fforddiadwy’r llynedd.

Cynhelir y cyfarfod ar 12 Chwefror am 2.30pm. Mae croeso i aelodau’r cyhoedd fod yn bresennol. Ffoniwch 01792 636292 am ragor o fanylion.