Bydd Panel Ymchwiliad Newydd Yn Edrych Ar Ofal Cymdeithasol yn y Cartref

Wrth i’r galw am y nifer o bobl y gofelir amdanynt yn eu cartrefi eu hunain gynyddu, mae hyn yn rhoi mwy a mwy o bwysau ar y Cyngor a’i bartneriaid, wrth iddynt geisio cwrdd â’r galw gydag adnoddau a lefel staff prin.

8693760598_afd6dbf335_o

Datblygwyd Panel Ymchwiliad Craffu newydd, a fydd yn ceisio ateb prif gwestiwn yr ymchwiliad ‘Sut gall Cyngor Abertawe a’i Bartneriaid gefnogi pobl i’w galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain?’ yn ogystal â nifer o lwybrau ymholi pellach: What are the priorities in this area?

  • Beth yw’r blaenoriaethau yn y maes hwn?
  • Beth yw’r rhwystrau ar gyfer gwelliant pellach yn y maes hwn?
  • Pwy yw’r partneriaid a beth yw eu rôl i helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain?
  • Sut mae’r pwysau cynyddol ar gyllidebau gofal cymdeithasol yn effeithio ar drefniadau gofal yn y cartref?
  • Pa fesurau ansawdd sydd yn eu lle i asesu a monitro gofal cymdeithasol yn y cartref?
  • Ydy hi’n fforddiadwy i aros yn eich cartref eich hun?
  • Pa effaith a gafodd y Safonau Gofynnol Cenedlaethol newydd ar ofal yn y cartref?
  • Pa mor dda y mae’r Cyngor yn gweithio gyda’i bartneriaid?
  • Sut rydym yn creu a throsglwyddo adnoddau i gwrdd â’r galw i bobl aros yn eu cartref?
  • Sut mae’r ystadegau mewn perthynas â gofal yn y cartref yn Abertawe’n cymharu ag awdurdodau lleol eraill? (yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol)
  • Beth bydd y Mesur Gofal Cymdeithasol a Lles newydd yn ei olygu ar gyfer darpariaeth?

Yn ystod y chwe mis nesaf bydd Aelodau’r Panel yn cwrdd â swyddogion a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes gofal yn y cartref, yn ogystal â defnyddwyr gwasanaeth, i sefydlu sut mae’r system bresennol yn gweithio ac i edrych ar ba newidiadau y gellid eu cyflwyno i wella hyn. Bydd canfyddiadau’r ymchwiliad ar gael mewn adroddiad, a fydd yn amlinellu ei gasgliadau ac yn gwneud argymhellion i wella arfer presennol.

Os ydych yn teimlo bod gennych rywbeth diddorol i’w ychwanegu at hyn, e-bostiwch scrutiny@swansea.gov.uk.

Credyd ffotpgraffau: http://www.flickr.com/photos/95856300@N08/8759061354/

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.