Bydd Aelod y Cabinet dros Adfywio, y Cynghorydd Nick Bradley, yn ymddangos gerbron Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 17 Mawrth am sesiwn holi ac ateb.
Bydd y pwyllgor yn archwilio’r gwaith y mae wedi’i wneud yn ei rôl, gan ystyried blaenoriaethau, camau gweithredu, cyflawniadau ac effaith. Byddent yn croesawu’ch syniadau am gwestiynau.
Mae’r portffolio Adfywio’n cynnwys y meysydd canlynol o gyfrifoldeb:
- Diwylliant a Thwristiaeth
- Cyfalaf Diwylliannol
- Dinas Chwaraeon
- Treftadaeth, gan gynnwys canmlwyddiant Dylan Thomas
- Datblygu Economaidd gan gynnwys sectorau allweddol
- Tai – datblygiadau newydd
- Dinas Wyddoniaeth
- Canolfannau Maestrefol y Ddinas
Oes rhywbeth rydych chi’n meddwl y dylai’r pwyllgor ei ofyn iddo? Bydd y pwyllgor yn ystyried cwestiynau a geir erbyn 17 Mawrth wrth lunio’i strategaeth holi a gofynnir y cwestiynau allweddol i’r Cynghorydd Bradley.
Rhowch eich syniadau i ni drwy ychwanegu sylw at yr erthygl hon, drwy e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk neu drwy drydar i @swanseascrutiny.
Cynhelir cyfarfod y pwyllgor ddydd Llun 17 Mawrth am 4.30pm yn Ystafell Bwyllgor 2 yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod iddo.
Llun: Dinas a Sir Abertawe
Leave a Comment