Cyfarfu aelodau’r Panel Craffu Gofal Cymdeithasol yn y Cartref â nifer o ddarparwyr gofal cymdeithasol yn y cartref yn ddiweddar. Y nod oedd dysgu am y gwasanaeth maent yn ei ddarparu a rhoi cyfle unigryw i’r cynghorwyr glywed am bryderon a materion a allai fod yn effeithio ar y system bresennol.
Roedd aelodau’r Panel Gofal Cymdeithasol yn y Cartref yn ddiolchgar iawn i’r asiantaethau canlynol am gymryd rhan yn yr ymchwiliad ac am eu cyfraniad ato. Dyma rai o’r darparwyr gwasanaethau sy’n gweithio yn Abertawe a’r cyffiniau:
- Gofal Cartref Alpha
- Gwasanaethau Cartref Crosshands
- Gwasanaethau Nyrsio Aylecare
- Gofal Cartref Village
- Home Comforts
- Cymdeithas Tai Teulu
- Grwp Tai Coastal
Yn ystod y cyfarfod, codwyd nifer o faterion a theimlai’r cynghorwyr eu bod wedi cael tipyn i feddwl amdano yn sgîl y drafodaeth. Caiff canlyniadau eu canfyddiadau eu nodi mewn adroddiad manwl y bwriedir ei gyhoeddir tua mis Mehefin/Gorffennaf eleni, ynghyd ag unrhyw argymhellion maent am eu cynnig i wella’r gwasanaeth.
Dyma rai o’r materion a drafodwyd:
- Manteision gofal sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau a gofal sy’n canolbwyntio ar amser penodol ar gyfer tasgau
- Meini prawf cymhwyso i dderbyn gofal
- Y prosesau asesu ac ailasesu
- Sut mae’r rhestr frocera’n gweithio
- Y goblygiadau ariannol – ar gyfer asiantaethau, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyngor
- Cost gwasanaethau ychwanegol (preifat) i ddefnyddwyr gwasanaeth
- Rhwystrau i gyfathrebu
- Y weithdrefn gwyno
- Defnyddwyr gwasanaeth sy’n camddefnyddio’r gwasanaeth
- Priodoldeb, amlder a hyd ymweliadau
- Beth mae contractau ‘0 awr’ yn ei olygu i ofalwyr
- Yr adnoddau a’r hyfforddiant sydd ar gael i ofalwyr
- Cyflogau gofalwyr, gan gynnwys costau teithio
- Gwasanaethau bwyd i ddefnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys amser i baratoi bwyd
Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd y Panel yn ymweld â defnyddwyr gwasanaeth mewn canolfannau dydd ar draws Abertawe i glywed eu sylwadau am y gwasanaeth maent yn ei dderbyn yn eu cartrefi.
Os ydych yn teimlo bod gennych rywbeth i’w gyfrannu at yr ymchwiliad hwn, e-bostiwch: scrutiny@swansea.gov.uk neu ffoniwch Swyddog Craffu ar 01792 636393.
Leave a Comment