Bydd Aelod y Cabinet dros Wrthdlodi, y Cynghorydd David Phillips, gerbron Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 14 Ebrill am sesiwn holi ac ateb.
Bydd y pwyllgor yn archwilio’r gwaith y mae wedi’i wneud yn y rôl hon, gan ystyried blaenoriaethau, camau gweithredu, cyflawniadau ac effaith. Byddent yn croesawu’ch syniadau ar gyfer cwestiynau.
Mae’r portffolio Gwrthdlodi’n cynnwys y meysydd cyfrifoldeb canlynol:
- Cynhwysiad Cymdeithasol
- Adfywio Cymunedau/Cymunedau’n Gyntaf
- Fforwm Tlodi Plant
- Cysylltiadau â Phwyllgorau Plant a Phobl Ifanc ac Ardal
Oes rhywbeth rydych chi’n meddwl y dylai’r pwyllgor ei ofyn iddo? Bydd y pwyllgor yn ystyried cwestiynau a geir erbyn 14 Ebrill wrth lunio’i strategaeth holi a gofynnir y rhai allweddol i’r Cynghorydd Phillips.
Rhowch eich syniadau i ni trwy ychwanegu sylw at y post hwn, trwy e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk neu drydar @craffuabertawe.
Cynhelir cyfarfod y pwyllgor ddydd Llun 14 Ebrill am 4.30pm yn Ystafell Bwyllgor 1 yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe ac mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod iddo.
Llun: Dinas a Sir Abertawe
Leave a Comment