Beth fydd y Panel Craffu Perfformiad Ysgolion yn edrych arno eleni?

Yn ei gyfarfod diwethaf, trafododd y Panel Craffu Perfformiad Ysgolion ei raglen waith ar gyfer y flwyddyn i ddod. Brîff y panel yw darparu her barhaus i berfformiad ysgolion i sicrhau bod disgyblion Abertawe’n cael addysg o safon; ac mae’r awdurdod yn bodloni ei amcanion o ran gwella safonau ysgolion a chyrhaeddiad disgyblion.

Rhai o’r materion mae’n bwriadu edrych arnynt eleni yw:

  • Y cyngor a’r arweiniad a roddir i ysgolion a chyrff llywodraethu ysgol mewn perthynas â mynd i’r afael â pherfformiad gwael athrawon a recriwtio uwch-staff mewn ysgolion
  • Sicrhau cysondeb rhwng asesiadau athrawon ac ystafell ddosbarth
  • Arfer Adferol a’i effaith
  • Sut mae ysgolion yn defnyddio’r Grant Amddifadedd Disgyblion

Bydd y panel hefyd yn siarad â phenaethiaid a chadeiryddion llywodraethwyr tair ysgol o leiaf a gaiff eu nodi’n fuan a’u seilio ar eu lle yn y Matrics Cefnogi a Herio Ysgolion.

Cytunodd y panel ar ei raglen waith ar ôl gwerthuso’i waith dros y blynyddoedd blaenorol a chan hefyd gytuno i wneud mwy o ddefnydd o astudiaethau achos fel enghreifftiau o berfformiad, i geisio mwy o fewnwelediad gan y cyhoedd ac i gyfarfod mewn ysgol.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Panel Perfformiad Ysgolion neu graffu’n fwy cyffredinol, ewch i’n gwefan www.abertawe.gov.uk/scrutiny neu e-bostiwch scrutiny@swansea.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.