Y Cabinet yn cytuno ag adroddiad craffu ar gyfer gwella lles plant mewn ysgolion

2girlsYmatebodd y Cabinet yn ffurfiol i’r adroddiad Ymchwilio Craffu Cyrhaeddiad a Lles ar 1 Gorffennaf. Roedd yr ymchwiliad yn ystyried sut gall ysgolion, y cyngor a phartneriaid wella lles mewn ysgolion. Mae’r Cabinet wedi croesawu’r adroddiad ac wedi cytuno ar bob un o’r 12 argymhelliad a wnaed gan y panel a’r camau gweithredu i’w rhoi ar waith. Bydd panel yr ymchwiliad yn monitro’r camau gweithredu hyn dros y flwyddyn nesaf ac yn adrodd yn ôl i Bwyllgor y Rhaglen Graffu ei farn am gynnydd ac effaith yr ymchwiliad.

Roedd argymhellion y panel yn canolbwyntio ar sicrhau bod ysgolion yn cydnabod y cysylltiad rhwng lles emosiynol a chyrhaeddiad, a bod angen i blant yn bennaf oll deimlo’n hapus ac yn ddiogel er mwyn bod yn barod i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth. Cydnabu’r Cabinet hefyd fod nifer o’r argymhellion yn ymwneud â llywodraethwyr ysgolion a bod angen mwy o waith i archwilio i faterion sy’n ymwneud ag arfer gorau a gofynion hyfforddiant gorfodol i lywodraethwyr ysgolion.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.