Panel Perfformiad Ysgolion yn ystyried ‘Ailysgrifennu’r Dyfodol’

1 inclusion

Bydd y panel yn ei gyfarfod ar 18 Medi yn trafod dogfen Llywodraeth Cymru a ryddhawyd yn ddiweddar ‘Ailysgrifennu’r Dyfodol: codi uchelgais a chyrhaeddiad yn ysgolion Cymru’.
Mae’r adroddiad yn amlygu’r weledigaeth i gael disgwyliadau uchel ar gyfer yr holl ddysgwyr, ni waeth beth yw eu cefndir cymdeithasol economaidd, a sicrhau bod ganddynt gyfle cyfartal i gyflawni’r disgwyliadau hynny.

Bydd gan lawer o’r argymhellion oblygiadau i ysgolion ac awdurdodau lleol yng Nghymru, ac mae’r Panel wedi gofyn i’r Prif Swyddog Addysg lunio amlinelliad byr o sut gallai Abertawe fynd i’r afael â’r rhain.

Mae’r rhai o’r argymhellion hyn yn cynnwys er enghraifft:

  • sefydlu darpariaeth ar gyfer brecwast am ddim, yn enwedig i ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig mewn addysg gynradd, ac annog dysgwyr i’w derbyn.
  • cynllunio ar gyfer trosglwyddo effeithiol o’r ysgol   gynradd i’r ysgol uwchradd.
  • awdurdodau lleol yn mabwysiadu ymagwedd amlasiantaeth i gronni arbenigedd gydag asiantaethau eraill sy’n mynd i’r afael â phryderon iechyd, domestig a lles cymdeithasol dysgwyr a’u teuluoedd.

Os hoffech fwy o wybodaeth am graffu, gallwch fynd i’n gwefan yn www.abertawe.gov.uk/scrutiny

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.