Newyddion am yr Ymchwiliad i Gynhwysiad Addysg

1 inclusion

Bydd cynghorwyr yn trafod yr Ymchwiliad i Gynhwysiad Addysg a’r adolygiad allanol o addysg heblaw yn yr ysgol mewn cyfarfod yr wythnos nesaf.

Yn wreiddiol, roedd cynghorwyr yn bwriadu cynnal ymchwiliad i Gynhwysiad Addysg, yn enwedig addysg heblaw yn yr ysgol, ac roedd hyn i fod i ddechrau ym mis Ebrill. Cafodd hyn ei amlygu fel maes pryder gan yr argymhelliad a ddeilliodd o’r arolygiad a gynhaliwyd gan Estyn yn ddiweddar o wasanaethau addysg i blant a phobl ifanc yr awdurdod lleol a nododd fod angen ‘Gwella ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer y disgyblion hynny sy’n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol, yn enwedig i godi safonau cyflawniad a chynorthwyo ailintegreiddio yn ôl i ysgolion’.

Fodd bynnag, roedd adolygiad allanol o’r gwasanaethau hyn yn cael ei gynnal, felly cytunodd y panel i ohirio’r ymchwiliad craffu. Yn hytrach na dyblygu gwaith a oedd eisoes yn cael ei wneud, penderfynodd y panel ymchwiliad aros nes bod yr adolygiad allanol wedi’i gwblhau ac yn barod i gyflwyno ei ganfyddiadau a ddisgwylir rywbryd yn yr hydref.

Bydd y panel bellach yn cwrdd ar 23 Hydref i ystyried cynnydd o ran canfyddiadau’r adolygiad allanol. Yna bydd yn cyflwyno ei sylwadau a’i farn i Bwyllgor y Rhaglen Craffu ynghylch y camau y dylai craffu eu cymryd.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y gwaith hwn neu graffu’n gyffredinol, gallwch gysylltu â ni yn scrutiny@swansea.gov.uk

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.