Siarad ag ysgolion – Ysgol Gyfun Treforys

school_uniformFel rhan o’u rôl craffu, mae aelodau’r Panel Perfformiad Ysgolion wedi cytuno i siarad â detholiad o ysgolion yn ystod blwyddyn y cyngor eleni.Yr ysgol gyntaf eleni fydd Ysgol Gyfun Treforys. Mae’r panel wedi gwahodd y Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr i gyfarfod i’w gynnal yr wythnos hon er mwyn trafod amrywiaeth o faterion, er enghraifft:

  • Yr hyn mae’r ysgol wedi’i wneud i wella deilliannau ers arolygiad diwethaf Estyn
  • Pa rwystrau y gallai’r ysgol eu hwynebu wrth sicrhau gwelliannau ychwanegol
  • Sut mae’r ysgol yn defnyddio offer a mentrau i wella deilliannau
  • Beth mae’r ysgol yn ei wneud i wella presenoldeb disgyblion
  • Sut mae’r ysgol yn defnyddio ac yn rhannu arfer da

Cynhelir y cyfarfod ddydd Iau 16 Hydref am 4.30pm yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe.Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cyfarfod hwn, neu am graffu’n gyffredinol, cysylltwch â ni.

Cydnabyddiaeth llun: https://swanesa-edunet.gov.uk/en/images/head_morriston.jpg

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.