Craffu i ystyried argymhellion tai fforddiadwy

Mae’r Panel Ymchwiliad Craffu ar Dai Fforddiadwy’n cwrdd ddydd Mercher i asesu effaith eu hadroddiad ar dai fforddiadwy, a gynhaliwyd yn 2013. Edrychodd yr ymchwiliad ar ffyrdd y gallai’r cyngor a’i bartneriaid gynyddu’r cyflenwad cyffredinol o dai fforddiadwy yn Abertawe.

Gallwch lawrlwytho copi o’r adroddiad llawn yn ein  llyfrgell adroddiadau craffu.

Bydd y panel yn cwrdd â’r Cynghorydd David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Dai a Chymunedau gan ofyn y cwestiynau canlynol:

  • Beth sydd wedi newid ers i’r adroddiad gael ei gyflwyno i’r cabinet?
  • A yw’r argymhellion y cytunwyd arnynt wedi cael eu gweithredu?
  • Beth fu effaith yr ymchwiliad craffu?

Cynhelir y cyfarfod ddydd Mercher 3 Rhagfyr am 5pm yn Ystafell Gyfarfod y Siambr, Canolfan Ddinesig. Mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i’r cyfarfod. Ffoniwch y tîm craffu ar 01792 636292 neu e-bostiwch scrutiny@swansea.gov.uk os hoffech ddod.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.